Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn fy natganiad llafar ar 1 Hydref, amlinellais yn gryno y trefniadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i baratoi ar gyfer y risgiau sylweddol i wasanaethau yng Nghymru a'r cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu, os ceir Brexit heb gytundeb. Mae'r rhain wedi'u paratoi mewn cydweithrediad â'n sefydliadau partner a'n rhanddeiliaid allweddol.
Yn dilyn trafodaeth gyda’m Fforwm Cynghorol Rhanddeiliaid Gweinidogol Brexit, rwyf heddiw wedi cyhoeddi manylion pellach am y trefniadau hyn. Gallwch weld y ddogfen drwy glicio ar y ddolen isod:
Paratoadau yn yr adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adael y UE heb gytundeb
Rydyn ni'n gweithio'n galed i ddiogelu buddiannau'r cyhoedd a chleifion yng Nghymru. Byddwn yn parhau i wneud ein gorau glas i asesu effeithiau tebygol ymadael â'r UE a sicrhau ein bod mor barod â phosibl.
Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i atal Llywodraeth y DU rhag ein harwain i sefyllfa drychinebus Brexit heb gytundeb, a fydd yn anochel yn effeithio ar Gymru yn waeth na rhannau eraill o’r DU.