Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Yn gynharach heddiw, yn ystod cynhadledd flynyddol gyntaf Ystadau Cymru, lansiais Becyn Cymorth Cydweithredol newydd i'w ddefnyddio gan sefydliadau sydd am sicrhau eu bod yn manteisio i’r eithaf ar effeithlonrwydd ac effaith eu hasedau drwy gydweithredu ag eraill. Gall cydweithio llwyddiannus arwain at wasanaethau sydd wedi'u hintegreiddio’n well, a gall fod mor syml â dau ddarparwr gwasanaeth yn cydweithio fel bod ganddynt bresenoldeb mewn mwy nag un ardal. Awgrym arall yw y gallai fod ar ffurf canolfannau newydd ar gyfer y sector cyhoeddus lle byddai sefydliadau'n cydweithio i gael adeilad newydd ar y cyd yn lle’u hasedau presennol.
Mae'r hinsawdd ariannol heriol sy'n parhau i wynebu'n gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, sy’n ganlyniad uniongyrchol i bolisi cyni Llywodraeth y DU, yn golygu bod yn rhaid inni arloesi a chydweithio mewn ffordd fwy clyfar i fynd i'r afael â'r pwysau ariannol sydd arnom ar hyn o bryd, er mwyn inni allu darparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol a sicrhau ar yr un pryd ein bod yn cael gwerth am arian o'r holl adnoddau sydd ar gael inni.
Pan fo mentrau cydweithredol yn gweithio ar eu gorau, maent yn rheoli risgiau, yn chwalu rhwystrau ac yn arwain at fanteision pendant. O gydweithio ar draws sector cyhoeddus Cymru, gallwn sicrhau arbedion ariannol a gwella effeithlonrwydd, darparu gwasanaethau mwy integredig a chreu cyfleoedd i wella capasiti ac i helpu'n gilydd, gan sicrhau gwell canlyniadau er bod adnoddau'n fwy prin.
Mae'r Pecyn Cymorth yn cyd-fynd â'r ffyrdd o weithio sydd wedi'u hamlinellu yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a'r nod yw tynnu sylw at fanteision cydweithio a hefyd rybuddio am beryglon posibl. Gan fod cydweithio i wneud y defnydd gorau o'r ystad gyhoeddus yn rhan o gylch gorchwyl Ystadau Cymru, diben y pecyn cymorth yw rhoi arweiniad ac amlinellu astudiaethau achos sy'n rhoi enghreifftiau o gydweithio effeithiol ac o sut y gellir cyrraedd y nod yn hynny o beth./p>
Trosglwyddo Asedau Cymunedol: canllawiau i ymgeiswyr
Hefyd heddiw, fe ail-lansiais y fersiwn ddiwygiedig o'r Canllawiau Arferion Gorau ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol yng Nghymru. Diben y canllawiau yw cynnig cyngor i helpu i reoli'r broses trosglwyddo asedau ac i gyfyngu ar y risgiau cysylltiedig pryd bynnag y bo modd.
Ers eu cyhoeddi am y tro cyntaf yn 2015, mae'r canllawiau wedi bod yn sylfaen ar gyfer polisïau a gweithdrefnau Trosglwyddo Asedau Cymunedol sawl awdurdod cyhoeddus ar draws Cymru. Datblygwyd y canllawiau mewn ymateb i adborth a ddaeth i law o amrywiol sectorau, gan gynnwys awdurdodau lleol, y trydydd sector a chynghorau tref a chymuned, a nododd fod angen datblygu dogfen ganllawiau gyffredinol i gefnogi'r broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol.
Bwriedir i'r canllawiau hyn wella tryloywder mewn perthynas â throsglwyddo asedau cymunedol er mwyn helpu sefydliadau i fod yn fwy abl i wneud hynny’n llwyddiannus; ac wrth wneud hynny, datblygu defnydd hirdymor ffyniannus a chynaliadwy ar gyfer asedau eiddo a gwasanaethau mewn cymunedau ar draws Cymru.
Trosglwyddo Asedau Cymunedol yng Nghymru – Canllawiau arferion gorau