Llywodraeth Cymru yn ceisio barn drwy ymgynghoriad wyth wythnos
Heddiw, dydd Iau 3 Hydref, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad sy'n ceisio barn am gynlluniau i sicrhau bod y cwricwlwm llawn ar gael i bob plentyn, gan gynnwys Addysg Grefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, ei bod 'yn awyddus i sicrhau ei bod yn ofynnol i bob plentyn a phob person ifanc astudio Addysg Grefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn y cwricwlwm newydd', sy'n wahanol i'r hyn sy'n digwydd o dan y cwricwlwm presennol lle gall rhieni atal eu plant rhag mynd i wersi Addysg Grefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad wyth wythnos erbyn hyn ar oblygiadau'r penderfyniad mewn ysgolion, er mwyn casglu amrediad eang o safbwyntiau cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Drwy gydol yr ymgynghoriad bydd Llywodraeth Cymru yn cael adborth gan rieni, dysgwyr a grwpiau sydd â diddordeb ledled Cymru.
Mae hefyd yn gwahodd pobl i rannu eu safbwyntiau drwy ymgynghoriad ar-lein a gaiff ei lansio canol dydd ar 3 Hydref.
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:
Ein gweledigaeth yw cael system addysg gynhwysol lle gall pob dysgwr gyfrannu ati, elwa arni, a mwynhau dysgu pob pwnc.
Ein cyfrifoldeb fel llywodraeth yw sicrhau bod cwricwlwm llawn ar gael i bob person ifanc, un sy'n rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt.
Rwy'n awyddus i sicrhau bod pob disgybl yn astudio Addysg Grefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o dan y cwricwlwm newydd. Yn yr un modd ag y byddan nhw'n astudio gwyddoniaeth, mathemateg ac ieithoedd. Mae wedi bod yn beth anghyson erioed y gallai plant gael eu hatal rhag dysgu rhai pynciau. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar oblygiadau ymarferol ymdrin â'r anomaledd hwnnw.
Mae deall eu hawliau eu hunain a hawliau eraill yn bwysig er mwyn bodloni dibenion y cwricwlwm newydd.
Bydd yr ymgynghoriad yn cynnig cyfle i rieni, athrawon, pobl ifanc a rhanddeiliaid helpu i lunio'r maes polisi pwysig hwn.
Ychwanegodd y Gweinidog:
Dylai gwybodaeth sy'n eu cadw'n ddiogel rhag niwed, ac sy'n caniatáu iddyn nhw lywio'u ffordd yn y byd sydd ohoni, fod ar gael i blant. Yr ysgol yw'r amgylchfyd diogel a gofalgar i ddisgyblion ddysgu gyda'i gilydd a dysgu am ei gilydd.
Mae'r holl addysgu, a bydd yr holl addysgu, yn briodol i ddatblygiad y disgybl, a bydd rhieni'n cael gwybod am beth y bydd eu plant yn ei ddysgu. Mae'n rhaid sicrhau ei fod yn hawdd i rieni gael trafodaeth ag ysgolion am hynny ac am rannau eraill o'r cwricwlwm.
Bydd yr addysgu a'r dysgu ym mhob ysgol yn seiliedig ar fframwaith y byddwn ni'n ei ddarparu a fydd yn cynnig cyfarwyddyd.
Mae'r Llywodraeth hefyd yn ymgynghori ar newid enw 'Addysg Grefyddol', gan gynnig enw newydd, sef 'Crefyddau a Bydolygon'.
Wrth egluro'r newid sy'n cael ei awgrymu, dywedodd Kirsty Williams:
Bydd disgyblion yn edrych ar yr amrywiaeth o gredoau ysbrydol, athronyddol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol yn eu cymuned, ar hyd a lled Cymru, ac ar draws y byd.
Mae 'Crefyddau a Bydolygon’ yn adlewyrchu'r ymarfer addysgu yn y cwricwlwm newydd yn well, ac yn caniatáu edrych ar amrywiaeth o gredoau crefyddol ac athronyddol, yn ogystal â daliadau a bydolygon eraill.
Dywedodd Viv Laing, rheolwr polisi a materion cyhoeddus NSPCC Cymru:
Mae'n hanfodol bod pob plentyn yng Nghymru yn dysgu am gydberthynas iach, cyrff iach a sut i gadw'n ddiogel, drwy addysg cydberthynas a rhywioldeb a gaiff ei haddysgu'n fedrus mewn ysgolion.
Pan gaiff ei darparu fel rhan o'n dull o weithio fel ysgol gyfan, mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb – pwnc a ddylai bod yn cynnwys addysgu sy'n briodol i oedran a datblygiad y disgybl ar bob agwedd ar gamarfer – yn gallu helpu plant i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gydnabod beth yw camdriniaeth a sut i aros yn ddiogel. Bydd hefyd yn magu hyder plant i siarad am gamdriniaeth a chael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
Mae'r ymgynghoriad yn cael ei lansio heddiw ac yn cael ei gynnal tan ddydd Iau 28 Tachwedd.
I rannu eich barn, ewch i: llyw.cymru/sicrhau-mynediad-ir-cwricwlwm-llawn
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad, dilynwch @LlC_Addysg ar Twitter.