Mae Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru yn ôl gyda chategori newydd a chyffrous sy’n rhoi’r disgyblion wrth y llyw.
Heddiw (2 Hydref), lansiodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams y Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru, sy’n dathlu gweithwyr addysg proffesiynol ysbrydoledig ledled Cymru.
Cyfarfu’r Gweinidog Addysg ag enillydd Pennaeth y Flwyddyn y llynedd, Rhian Morgan Ellis, yn ei hysgol, Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn y Porth, i lansio gwobrau 2020.
Cafodd Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru dros 100 o enwebiadau ledled Cymru y llynedd, gyda’r enillwyr teilwng yn cael eu henwi yn y seremoni fis Mai diwethaf.
Gyda naw categori gwobrwyo, gan gynnwys Athro Newydd Eithriadol, Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion a Defnyddio’r Gymraeg mewn modd sy’n ysbrydoli, gallwch enwebu gweithiwr addysg proffesiynol rhagorol am sawl rheswm.
Mae tri chategori gwobrwyo newydd yn 2020, sef Athro Gorau’r Disgybl/Disgyblion, Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Gynradd ac Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Uwchradd.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
Mae’n fraint ac anrhydedd cael cyhoeddi bod Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru yn ôl am y bedwaredd flwyddyn.
Rydym yn lwcus iawn o gael gweithlu addysg anhygoel, ac mae’n bwysig iawn cydnabod a dathlu eu gwaith caled.
Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd athrawon a staff addysgu.
Maen nhw’n dangos esiampl i’r genhedlaeth nesaf ac yn sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn cyrraedd eu llawn botensial yn barhaus.
Dyna pam fy mod i’n llawn cyffro i gyhoeddi mai un o’r categorïau newydd eleni yw Gwobr y Disgybl (neu’r Disgyblion) ar gyfer Athro Gorau; gwobr a gaiff ei dyfarnu i rywun sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywydau.
Rwy’n edrych ‘mlaen at flwyddyn arall o ddathlu’r unigolion arbennig hyn ac yn falch o gyhoeddi bod yr enwebiadau nawr ar agor.
Rwy’n gobeithio y bydd pobl ledled y wlad yn cymryd eiliad i ddathlu’r gweithwyr addysg proffesiynol sy’n mynd yr ail filltir dros eu proffesiwn.”
Enillodd Rhian Morgan Ellis o Ysgol Gyfun Cwm Rhondda y wobr Pennaeth y Flwyddyn – sy’n wobr uchel ei pharch – yn y seremoni y llynedd o ganlyniad i’w harweinyddiaeth drawsnewidiol yn ei hysgol a’i chymuned.
Fe’i ganed yn y Rhondda Fach i deulu di-Gymraeg a mynychodd ysgol Gymraeg yn y 60au. Gweledigaeth Rhian, felly, oedd i gynnig yr un addysg i bob plentyn yn y cwm.
O’n i’n hynod falch fy mod i wedi ennill y wobr achos fi wastad wedi pregethu wrth y plant yn yr ysgol bod nhw gystal ag unrhyw un a bod nhw’n gallu cyflawni unrhyw beth maen nhw eisiau gwneud.
“Felly pan enillais i'r wobr hon o’n i’n teimlo ar ran hunanwerth ein disgyblion ni bod e’n profi iddyn nhw bod rhywun o’r ysgol hon yn gallu bod gystal ag unrhyw un, unrhyw un yng Nghymru, Ewrop neu’r byd.
Mae’r enwebiadau ar agor tan 22 Tachwedd, gyda’r enillwyr yn cael eu datgelu mewn Seremoni Wobrwyo arbennig ym mis Mai 2020.