Heddiw, bydd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt yn cyhoeddi y bydd gwasanaethau cynghori ledled Cymru yn cael dros £8m o gyllid diolch i Gronfa Gynghori Sengl newydd Llywodraeth Cymru.
Wrth siarad mewn digwyddiad i ddathlu 80 mlynedd ers sefydlu Cyngor ar Bopeth bydd y Dirprwy Weinidog yn sôn am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau gwybodaeth a chyngor a diolch i ddarparwyr gwasanaethau am y cymorth amhrisiadwy maent yn ei ddarparu.
Bydd y Dirprwy Weinidog yn dweud:
“Rydyn ni'n gwybod bod y gwasanaethau sy'n cael ein harian grant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl, yn aml yn cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Y llynedd yn unig rhoddodd y gwasanaethau cynghori gymorth i fwy na 77,000 o bobl i gael £53 miliwn o fudd-daliadau lles ychwanegol.
“Ond wrth i'r pwysau ar Wasanaethau Gwybodaeth a Chyngor barhau i dyfu, mae'n bwysicach nag erioed bod gennym sector cynghori sy'n defnyddio adnoddau mor effeithiol â phosibl. Mae angen i ddarparwyr cyngor ddylunio a darparu eu gwasanaethau ar y cyd, gan sicrhau eu bod wedi'u seilio ar angen ac yn cynnig y canlyniadau mwyaf cynaliadwy i'r rhai hynny sydd eu hangen fwyaf.
“Felly heddiw mae'n dda gen i gyhoeddi y bydd ein Cronfa Gynghori Sengl, gyda Cyngor ar Bopeth Cymru yn gorff cyflawni arweiniol, o 1 Ionawr 2020 ymlaen, yn cefnogi gwasanaethau cyngor arloesol ac integredig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i helpu pobl pan fo arnynt ei angen fwyaf.”
Drwy'r Gronfa Gynghori Sengl, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ei hymrwymiad i gefnogi darparwyr cyngor lles cymdeithasol fel y gall pobl gael y cyngor diduedd ac am ddim sydd ei angen arnynt i ddatrys problemau gyda'u tai, eu budd-daliadau lles ac o ran rheoli eu hymrwymiadau ariannol.