Rachel Lewis
Rownd derfynol
![Rachel Lewis](/sites/default/files/campaign-case-studies/2019-10/Rachel%20Lewis%20960%20x%20640.jpg)
Mae Rachel Lewis yn cael y prif glod am wella gwaith cyflenwi cymwysterau sgiliau hanfodol yn Uned Brentisiaethau Coleg Pen-y-bont dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae Rachel, 33 oed, wedi meithrin pob math o ddysgwyr a, gyda’i hagwedd hyblyg, gall ymwneud yn llwyddiannus â’r gwahanol garfannau o brentisiaid a’u cyflogwyr. Yn wir, llwyddodd 90% o’i dysgwyr i gwblhau eu cymhwyster yn 2017-18.
Mae'r llwybr a gymerodd Rachel i ddod yn diwtor uchel ei pharch yn dangos sut y gall dysgu seiliedig ar waith ysbrydoli ac annog rhywun i ddilyn gyrfa newydd. Mae wedi cwblhau nifer o gymwysterau yn y maes ac mae'n cymryd Diploma Lefel 5 mewn Rheoli ac Arwain ar hyn o bryd.