Lloyds Banking Group
Rownd derfynol
![Lloyds Banking Group](/sites/default/files/campaign-case-studies/2019-10/lloyds%20banking%20group%20960%20x%20640.jpg)
Mae Grŵp Bancio Lloyds (LBG) wedi ymrwymo i gefnogi 8,000 o brentisiaethau ledled Prydain erbyn 2020 a dywed bod y nod hwn mewn golwg ar ôl iddo greu dros 700 yng Nghymru yn unig ers 2012.
Eleni, mae’r Grŵp yn disgwyl darparu 100 arall o gyfleoedd dysgu i’w weithwyr presennol ynghyd â gweithwyr newydd o bob rhan o Gymru, gan chwalu’r hen gred mai dim ond ar gyfer pobl ifanc mae prentisiaethau.
Ers 2017, mae LBG wedi meithrin perthynas agos â Choleg Caerdydd a’r Fro gan ddatblygu a chyflenwi set o saith rhaglen ar gyfer staff yng Nghymru. Mae gan y Coleg dîm asesu ar safleoedd LBG ac mae hyn yn gwella profiad y prentisiaid trwy gynnig cymorth a chefnogaeth.