Kane Laver McMahon
Rownd derfynol
Diolch i’w brofiad yn helpu ar gynllun cymunedol, profiad gwaith mewn archfarchnad a lleoliad gwaith ar orsaf radio, mae Kane Laver McMahon wedi datblygu sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm. Roedd y bachgen 19 oed yn unig ac yn dioddef o orbryder ar ôl symud o Luton i’r Barri.
Ond bu rhaglen gan Ymddiriedolaeth y Tywysog trwy People Business Wales o’r Barri, yn help i Kane wella’i hyder a’i sgiliau cyflogadwyedd. Symudodd Kane ymlaen i Hyfforddeiaeth Lefel 1 gyda People Business Wales a nawr mae’n gweithio tuag at Lefel 2 mewn Lletygarwch yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.
Meddai Kane:
“Rwy wedi goresgyn fy mhroblemau â gorbryder a diffyg hyder. Roedd symud o Luton yn anodd ond wrth ymuno â People Business fe wnes i ffrindiau newydd a daeth fy hyder yn ôl.”