Daeth yr ymgynghoriad i ben 7 Ebrill 2015.
Manylion am y canlyniad
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/Summary_of_responses_125.jpg?itok=uCg08qaD)
Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 160 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/Responses.jpg?itok=jQKcJCRX)
Ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 929 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ar y cynigion i drosi elfennau cynllunio defnydd tir Cyfarwyddeb Seveso III i ddeddfwriaeth gynllunio yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Cyfarwyddeb Seveso a gyflwynwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd yn sicrhau bod gan Aelod-Wladwriaethau systemau i rwystro damweiniau mawr ar y tir sy'n cynnwys sylweddau peryglus. Byddai hyn yn cyfyngu ar yr effaith ar y cyhoedd a'r amgylchedd pe byddai damwain yn digwydd. Mae'n ofynnol i Aelod-Wladwriaethau drosi gofynion Cyfarwyddeb Seveso i'w deddfwriaeth eu hunain.
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi Cyfarwyddeb ddiwygiedig o'r enw Seveso III. Y prif reswm am y Gyfarwyddeb newydd yw i fynd i'r afael â'r newidiadau sydd wedi'u gwneud yn nosbarthiad sylweddau peryglus ac i gryfhau'r gofynion i'r cyhoedd gael gweld gwybodaeth a chymeryd rhan wrth wneud penderfyniadau.
Mae rhan fwyaf o ofynion y Gyfarwyddeb yn cael eu trosi drwy ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ledled Prydain. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am drosi gofynion cynllunio defnydd tir y gyfarwyddeb yng Nghymru.
Dogfennau ymgynghori
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/Consultation_document_177.jpg?itok=SPsVTL_T)
Dogfen ymgynghori (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 112 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/Annex_1_-_The_Planning__Hazardous_Substances___Wales__Regulations_2015__Draft_.jpg?itok=8iaUBa8z)