Heddiw, bydd Ken Skates Ysgrifennydd yr Economi yn lansio Bro Tathan – parc busnes ym Mro Morgannwg sy'n cynnig cysylltiadau cryf rhwng Cymru a gweddill y byd.
Dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru, saif Bro Tathan ym Maes Awyr Caerdydd ac Ardal Fenter Bro Tathan. Mae’r asiant eiddo byd-eang Savills wedi’i gomisiynu i hyrwyddo’r cyfuniad unigryw o atyniadau sydd yn y parc busnes:
- safle gyflogaeth strategol sy'n cynnig atebion â gwasanaeth a chyflym, yn ogystal â lle i dyfu drwy amrywiaeth o gyfleoedd dylunio ac adeiladu.
- maes awyr masnachol parod i'w ddefnyddio a weithredir gan Faes Awyr Caerdydd.
- lleoliad cyfleus, sy’n llai na phum milltir o Faes Awyr Caerdydd gyda thros 50 o deithiau hedfan uniongyrchol a mwy na 900 o gysylltiadau rhyngwladol.
Mae'r safle eisoes wedi denu eicon ceir byd-eang Aston Martin, a bydd Bro Tathan yn y pen draw yn Gartref Trydaneiddio pan fydd y modelau BEV arfaethedig yn cael eu cynhyrchu.
Mae llawer o brif fusnesau awyrofod y byd yn gweithredu yn yr ardal leol, gan gynnwys British Airways, Airbus, GE a Nordam. Mae Bro Tathan hefyd yn gartref i safle hofrennydd chwilio ac achub Gwylwyr y Glannau EM, a weithredir gan Bristow Helicopters. Mae'n darparu cymorth hanfodol o ran achub bywydau i ddiwydiannau pysgota a diwydiannau morol eraill, yn ogystal â digwyddiadau ar y tir gan gynnwys achub ar y mynydd, personau sydd ar goll ac argyfyngau meddygol.
Mae'r lansiad ar 30 Medi yn hyrwyddo gweledigaeth a photensial enfawr Bro Tathan i ddatblygwyr eiddo ac amrywiaeth o sectorau ac arweinwyr busnes.
Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
Mae Bro Tathan yn gyfle hynod gyffrous ar gyfer economi Cymru a bydd y parc busnes yn safle o ddiddordeb go iawn ar draws y byd. Mae ein neges heddiw yn glir; mae Cymru ar agor ar gyfer busnes.
Mae gan yr ardal dreftadaeth awyrofod ac amddiffyn gadarn, ynghyd â mynediad i'r sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau i ffynnu. Mae parc busnes Bro Tathan eisoes wedi profi ei werth i sawl cwmni ac edrychaf ymlaen at ei weld yn denu mwy yn y dyfodol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Savills, Scott Caldwell:
Mae lleoli maes awyr masnachol yn yr un lle â pharc busnes mewn lleoliad strategol mor gryf yn cynnig cyfleoedd i ddenu buddsoddwyr, datblygwyr a busnesau ar draws y DU a’r byd. Rydym yn rhannu uchelgeisiau gwych Llywodraeth Cymru ar gyfer y safle ac yn gyffrous i ddangos y cyfleoedd y mae'n ei gynnig.
Mae eCube Solutions, chwaraewr byd-eang yn y diwydiant gwasanaethau hedfanaeth, eisoes yn elwa ar bwynt gwerthu unigryw'r lleoliad. Ar y cychwyn, roedd eCube yn arbenigo mewn prosiectau awyrennau 'diwedd oes', ac mae wedi datblygu ei arbenigedd i gyflawni datrysiadau cyflawn, sy'n amrywio o barcio a storio awyrennau i reoli rhestri eiddo a logisteg trydydd parti, ac mae wedi ehangu'n ddiweddar i Sbaen.
Dywedodd Peter Dunsford, Cyfarwyddwr Busnes:
Ar gyfer eCube Solutions, mae Bro Tathan yn cynnig pob math o bethau unigryw - mynediad i’r cyflenwad o ddoniaU sydd ar gael yn Ne Cymru yn y maes hedfanaeth, maes glanio a reoleiddir gyda gwasanaeth Rheoli Traffig Awyr parhaol, rhedfa ar gyfer awyrennau o bob maint, mynediad hawdd i Gaerdydd, maes awyr Caerdydd a'r M4/M1/M5. Yn ogystal â hynny, rydym yn cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru, gyda'r Tîm Datblygu Maes Awyr a Busnes Cymru yn cefnogi datblygiad ein cwmni yn rheolaidd.