Heddiw, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn hedfan i Japan o Faes Awyr Caerdydd i arwain taith fasnach sy’n cael ei chynnal yr un pryd â Chwpan Rygbi’r Byd.
Mae Japan yn farchnad bwysig i Gymru. Bydd 17 o gwmnïau o Gymru yn cael eu cyflwyno i bartneriaid busnes posibl yn ystod y daith fasnach, a bydd yn gyfle iddynt ymchwilio i gyfleoedd newydd ar gyfer cynyddu eu hallforion.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adeiladu ar y twf sydd wedi bod yn y masnachu rhwng Cymru a Japan drwy elwa ar y diddordeb sydd yn y twrnamaint ac yn nhîm rygbi Cymru.
Mae allforion o Gymru i Japan wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda gwerth £1 biliwn o nwyddau o Gymru yn cael eu hanfon i Japan dros y bum mlynedd diwethaf. Cafodd bron i £250 miliwn o allforion eu hanfon o Gymru i Japan yn 2018 – cynnydd o 25 y cant yn y ffigur ar gyfer 2017.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Mae Cwpan Rygbi’r Byd yn cynnig cyfle unigryw i dynnu sylw at Gymru. Mae Cymru a Japan wedi bod yn bartneriaid busnes agos ers amser, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ymchwilio i’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y daith fasnach hon i atgyfnerthu’r cysylltiadau ac adeiladu ar y berthynas gadarn rhwng ein dwy genedl.
“Gallwn olrhain y bartneriaeth ffyniannus rhyngon ni a Japan yn ôl bron i 50 mlynedd, pan agorwyd ffatri PVC gan gwmni Takiron ym Medwas, yn y De.
“Erbyn heddiw, mae gan 60 o gwmnïau o Japan, gan gynnwys Sony, Sharp, Toyota, Kasai Kogyo a Yuasa Battery bresenoldeb yng Nghymru ac maent yn cyflogi mwy na 6,000 o bobl. Gyda gwerth £250 miliwn o allforion o Gymru i Japan yn 2018, sy’n gynnydd o 25% ar ffigur 2017, mae ein perthynas fasnachu yn dal i fynd o nerth i nerth.
“Mae gan Gymru dreftadaeth fusnes gyfoethog ac amrywiol ac mae amrywiaeth eang o gwmnïau arloesol, uchel eu parch, wedi ymgartrefu yma. Rydyn ni’n hynod falch o gefnogi’r ddirprwyaeth hon, sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau o safon ar draws amrywiol sectorau, wrth iddi sefydlu a meithrin cysylltiadau â busnesau o Japan ac ysgogi twf drwy allforio.
“Beth bynnag y bydd ffurf perthynas y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol – ein neges i’n cyfeillion yn Japan yw ein bod wedi ymrwymo o hyd i gynnal ein cysylltiadau yma a’u meithrin.”
Bydd y Prif Weinidog yn siarad mewn digwyddiad yn Nhŷ Cymru/ Wales Dome sy’n dod â gweithwyr proffesiynol o faes seiberddiogelwch, gan gynnwys y sawl sy’n arwain ar seiberddiogelwch yn rhai o gwmnïau mwyaf Japan, ynghyd. Mae’r sector seiberddiogelwch yng Nghymru yn un o’r clystyrau mwyaf yn y Deyrnas Unedig, gyda mwy na 200 o gwmnïau yng Nghymru yn gweithio yn y maes seiber
Yn ystod ei ymweliad â Japan, bydd y Prif Weinidog hefyd yn hybu Cymru fel cyrchfan i dwristiaid mewn digwyddiad a fydd yn cael ei gynnal ar y cyd â Chymdeithas Asiantaethau Teithio Japan.
Ers 2015 mae nifer yr ymweliadau gan deithwyr o Japan sy’n teithio i Gymru fel rhan o wyliau pecyn wedi cynyddu o sero yn 2015/16 i 5,369 yn 2018/19.
Bydd y Prif Weinidog a Llysgennad Prydain yn Japan yn cynnal derbyniad ar y cyd. Yn y derbyniad hwn, bydd mwy na 100 o westeion yn dod ynghyd i groesawu’r daith fasnach i Japan, a dathlu’r berthynas eang sydd wedi hen sefydlu rhwng Cymru a Japan.
Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal, gan gynnwys rhaglen ddiwylliannol a fydd yn dangos i bobl Japan yn ogystal ag ymwelwyr rhyngwladol yr holl bethau eraill, heblaw am ein rygbi rhagorol, sy’n arbennig am Gymru.