Daeth yr ymgynghoriad i ben 2 Chwefror 2015.
Manylion am y canlyniad
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/150601-responses-cy-thumb_jpg.jpg?itok=T2VdtRqu)
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 193 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd eich sylwadau ynghylch y dyddiadau tymor arfaethedig a'r cyfarwyddyd drafft. Bydd eich cyfraniadau yn ein helpu i sicrhau ein bod yn pennu'r dyddiadau mwyaf priodol ar gyfer ein hysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymwybodol o'r anawsterau y mae llawer o deuluoedd ar draws Cymru yn eu hwynebu o ganlyniad i amrywiadau yn nyddiadau tymhorau ysgol ac felly gwyliau ysgol.
I fynd i'r afael â'r pryderon hyn mae Gweinidogion Cymru wedi defnyddio Deddf Addysg (Cymru) 2014 i wneud newidiadau deddfwriaethol i’r modd y caiff dyddiadau tymhorau ysgol eu pennu er mwyn cysoni’r dyddiadau ar draws pob ysgol a gynhelir.
Mae'r newidiadau hyn yn golygu bod Gweinidogion Cymru yn gallu rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig ynghylch dyddiadau eu tymhorau os nad yw'r dyddiadau hynny wedi'u cysoni neu os oes angen eu newid.
Dogfennau ymgynghori
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/141110-school-term-dates-consultation-cy-thumb_jpg.jpg?itok=cB0K9vW8)
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 484 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/141107-youth-friendly-term-dates-cy-thumb_jpg.jpg?itok=nKxFrfR9)