Cyn gwneud cais am gyllid yr UE, rhaid ichi gyflawni'r camau cynllunio ymlaen llaw a pharatoi cynllun busnes.
Cyn gwneud cais am gyllid yr UE
- cysylltwch â ni i siarad am eich syniad ar gyfer prosiect
- darllenwch eich canllawiau gweithredol ar gyfer rhaglen briodol Cronfeydd Strwythurol yr UE
- darllenwch eich canllawiau ar gyfer prosiectau
- os yw eich syniad ar gyfer prosiect yn addas i wneud cais am gyllid, byddwn yn trefnu cwrdd â chi
- byddwn yn enwi rhywun i weithio gyda chi i ddatblygu eich prosiect ymhellach
- cwblhewch dabl i weld a yw eich prosiect yn addas ai peidio (gelwir y tabl yn 'Tabl Rhesymeg y Gweithrediad' (OLT)
Manylion cyswllt
Mae nifer o ffyrdd o gysylltu â ni:
e-bost: enquiries-wefo@llyw.cymru
ffôn: Llinell Gymorth Busnes Cymru (0300 060 3000)
Hefyd, mae croeso ichi gysylltu ag aelod o'r tîm ymgysylltu lleol. Byddant yn gallu eich helpu gyda'ch prosiect.
Y gogledd
E-bost: barbara.burchell@conwy.gov.uk
Y canolbarth
E-bost: claire.miles@ceredigion.gov.uk
Y de-ddwyrain
E-bost: lisa.jones@bridgend.gov.uk
Bae Abertawe
E-bost: jelewis@carmarthenshire.gov.uk
E-bost: bbwalters@carmarthenshire.gov.uk
Prosiectau a ddewisir i wneud cais am gyllid
Os yw eich syniad ar gyfer prosiect yn bodloni'r meini prawf ar gyfer un o raglenni Cronfeydd Strwythurol yr UE, cewch wneud cais am gyllid.