Bydd Cynhadledd UK Space 2019, sef y gynhadledd fyd-eang fawr gyntaf i'w chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICCW), yn cael ei lansio'n ffurfiol heddiw gan Ken Skates, Gweinidog yr Economi.
Mae Cynhadledd UK Space wedi hen sefydlu fel y digwyddiad pwysicaf a mwyaf dylanwadol ar y gofod yn y DU.
Dyma'r pumed digwyddiad, ac mae'n dod â'r prif unigolion o fewn cymuned y gofod at ei gilydd, gan gynnwys llywodraeth, y byd academaidd a diwydiant, i gyfnewid syniadau, rhannu cynlluniau, datblygu perthynas a chwilio am ysbrydoliaeth i oroesi yn y cyfnod newydd hwn i'r gofod.
Dyma'r tro cyntaf i Gynhadledd y Gofod gael ei chynnal yng Nghymru, gyda'r trefnwyr yn dewis cynnal eu digwyddiad yn y cyfleusterau cynadledda newydd sydd yn union dros ffordd i westy'r Celtic Manor yng Nghaerdydd.
Mae'r ICCW wedi'i ddatblygu drwy Fenter ar y Cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Celtic Manor Resort Ltd, er mwyn creu lleoliad cynadledda eiconig yn Ne Cymru.
Amcangyfrifir y gallai'r ICCW ddod â £70 miliwn y flwyddyn i economi Cymru, tra bo effaith economaidd yr holl ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu hyd yma yn werth oddeutu £22 miliwn i'r ardal leol.
Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i sector y gofod yn amlwg, ac mae Ken Skates hefyd wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer dau brosiect i fanteisio ar y cyfleoedd newydd hyn.
Bydd Snowdonia Aerospace yn derbyn £135,000 o gyllid Llywodraeth Cymru am brosiect ar Faes Awyr Llanbedr i brofi a hedfan awyrennau di-griw, awyrennau trydan ac awyrennau gofod.
Mae B2Space hefyd wedi derbyn £100,000 i sefydlu yng Nghymru ac i ddefnyddio Llanbedr i edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio balwnau stratospherig i lansio lloerennau nano.
Mae Cymru yn anelu at greu 5% o drosiant diwydiant gofod y DU - cyfle gwerth £2 biliwn y flwyddyn - erbyn 2030.
Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
Dwi'n falch bod pumed Cynhadledd Ofod y DU yn cael ei chynnal yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd, ac yn ymestyn croeso cynnes iawn i Gymru i'r gymuned ofod yn y DU a'n gwesteion rhyngwladol.
Mae effaith ICCW trwy ddarparu canolfan twristiaeth busnes newydd, yn ogystal â chynnig gwaith a chyfleoedd o fewn y gadwyn gyflenwi i'w ddathlu, ac mae'n wych bod y digwyddiad yn digwydd yma.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi twf parhaus y sector gofodol yng Nghymru, fydd yn creu swyddi ac yn hwb gwirioneddol i economi Cymru.
Mae Cymru wedi datblygu sylfaen weithgynhyrchu a thechnoleg gref sydd â chryfderau penodol mewn sectorau sy'n rhannu elfennau cadwyn gyflenwi diwydiant y gofod, megis ffotoneg, awyrofod, cyfathrebu diogel a systemau meddalwedd.
Gallwn gynnig amgylchedd profi a gwerthuso diogel sydd wedi'u profi hefyd mewn lleoliadau megis Traeth Pentywyn, Parc Aberthporth a Maes Awyr Llanbedr, ac rwy'n falch iawn o gyhoeddi cyllid heddiw ar gyfer dau brosiect pwysig yno.
Mae Cymru yn cynnig amgylchedd ffisegol a busnes unigryw i gwmnïau yn y sector, ac mae'r twf a'r defnydd masnachol o'r Sector Gofodol yn hanfodol i'n llwyddiant yn y dyfodol.