Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'n rhaid i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd y GIG gynhyrchu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig yn flynyddol yn unol â Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014, yn nodi sut y byddant yn defnyddio eu hadnoddau dros gyfnod o dair blynedd i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd uchel sy’n ymateb i anghenion poblogaeth ac yn sicrhau gwell ganlyniadau iechyd.
Ym mis Mawrth, roedd yn bleser gennyf gyhoeddi bod cynlluniau ar gyfer saith o sefydliadau'r GIG a oedd wedi cyflwyno cynlluniau tair blynedd cytbwys ac ymarferol ar gyfer cylch cynllunio 2019-22, wedi cael eu cymeradwyo, sy'n welliant o gymharu â'r blynyddoedd blaenorol, ac yn dangos bod cynnydd yn cael ei wneud.
Heddiw rwyf wedi cyhoeddi Fframwaith Cynllunio GIG Cymru ar gyfer 2020-23 sy'n rhoi cyfarwyddyd ar gyfer Cynlluniau Tymor Canolig Integredig clir ac ymarferol ar gyfer y cylch cynllunio nesaf. Bydd hyn yn cefnogi sefydliadau'r GIG i gynllunio a darparu'r blaenoriaethau cenedlaethol a nodwyd, ac yn hollbwysig, parhau i wella ansawdd y gofal y mae cleifion yn ei gael yng Nghymru, gan arwain at well canlyniadau i’r cleifion hynny. Yr angen i sicrhau ansawdd yw hanfod pob rhan o bob cynllun, a rhaid i’r gwaith o gynllunio iechyd a gofal yng Nghymru adlewyrchu hynny pob cam o’r ffordd.
Rwy'n falch hefyd bod y Cynllun Tymor Canolig Integredig Cenedlaethol eleni, am y tro cyntaf, wedi'i gyhoeddi ochr yn ochr â Fframwaith Cynllunio GIG Cymru ac wedi cyfrannu ato. Roedd cynhyrchu'r Cynllun Tymor Canolig Integredig Cenedlaethol yn ymrwymiad a wnaed yn 'Cymru Iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol' ac mae'n darparu trosolwg cenedlaethol o'r cylch cynllunio blaenorol. Dyma gyfle pwysig i sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu ac arferion gorau yn cael eu rhannu i gryfhau aeddfedrwydd y system gynllunio integredig ymhellach.
Bellach, mae ychydig dros flwyddyn wedi pasio ers cyhoeddi 'Cymru Iachach' sy'n cyflwyno’r her o "chwyldro mewnol" i sicrhau y gall ein system iechyd a gofal cymdeithasol ddiwallu anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yng Nghymru. I wneud hyn, rwy'n bendant bod angen i ni weld cydweithio agosach rhwng partneriaid a thystiolaeth bellach o ddull system gyfan o ran iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n rhaid i hyn fynd y tu hwnt i'n partneriaethau presennol i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd sy'n effeithio ar iechyd, tegwch, llesiant a chyfleoedd bywyd, cyn gynted â phosibl.
Nododd Cymru Iachach hefyd y gofyniad i sicrhau pwyslais cryfach ar swyddogaeth y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Rwy'n fodlon y gwnaed camau breision dros y flwyddyn ddiwethaf wrth ddatblygu perthnasoedd rhwng y GIG a'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
Mae'r Cynlluniau Tymor Canolig Integredig yn parhau i gynnig cyfleoedd i sefydliadau'r GIG sicrhau eu llwybrau tuag at newid. Gan edrych ar sut y bydd sefydliadau yn parhau i ddatblygu eu cynlluniau mewn ymateb i'r Fframwaith hwn, hoffwn weld tystiolaeth o sut y bydd sefydliadau yn cydweithio yn agosach ac yn fwy cyson gyda gwasanaethau cymdeithasol, ynghyd â'r trydydd sector, tai, a'r sector annibynnol. Er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ein GIG ar gyfer cenedlaethau i ddod, mae'n rhaid i ni groesawu newid ac arloesi lle bo angen ar bob cyfle posibl.
Mae'r strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb', a 'Cymru Iachach' yn tynnu sylw at bwysigrwydd sefydliadau iechyd poblogaeth sy'n canolbwyntio ar atal, lleihau anghydraddoldebau iechyd a gweithio gyda rhanddeiliaid i fynd i'r afael ag anghenion y boblogaeth. Rwy'n awyddus i weld sut bydd sefydliadau'n cynllunio, gan ddefnyddio egwyddorion datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, i symud ymlaen i weithio mewn ffordd wirioneddol integredig, gan ganolbwyntio ar y dinesydd wrth gynllunio.
Mae fy mlaenoriaethau yn parhau i fod yr un fath, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i esbonio ymhellach y pwyslais yr wyf yn disgwyl ei weld yn y cynlluniau eleni. Rhaid i’r cynlluniau eu hunain ddefnyddio dull cynllunio integredig sy’n seiliedig ar y system gyfan ar gyfer gosod sut y caiff gwasanaethau gofal iechyd eu darparu ar draws llwybrau’r cleifion. Hefyd bydd ffocws penodol ar leihau anghydraddoldebau iechyd o bob math, ffocws eang ar atal, nid meysydd traddodiadol yn ymwneud â ffordd o fyw ac imiwneiddio yn unig; mynediad prydlon â theg at ofal, datblygu model gofal sylfaenol Cymru a gofal yn nes at y cartref, a gwella gwasanaethau iechyd meddwl i gyflawni cydraddoldeb â gwasanaethau iechyd corfforol. Mae'r rhain yn adlewyrchu'r gwerthoedd ac egwyddorion sylfaenol yr wyf eisiau eu gweld mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae'r Fframwaith ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:
Fframwaith cynllunio GIG Cymru 2020 i 2023
Cynllun Tymor Canolig Integredig Cenedlaethol GIG Cymru (IMTP) 2019 i 2022