Mae’r Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, wedi ymweld ag allforiwr llwyddiannus i wrando ar bryderon ynglŷn â’r risgiau sy’n gysylltiedig â Brexit heb gytundeb ac i amlinellu’r camau y gall busnesau eu cymryd er mwyn paratoi.
Mae’r bygythiad cynyddol y bydd Brexit yn digwydd heb gytundeb yn achosi ansicrwydd a phryder i’r gymuned fusnes yng Nghymru – yn enwedig i’r busnesau hynny sy’n allforio i wledydd yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd gofyn i gwmnïau sy’n allforio i’r UE gydymffurfio â chryn dipyn yn rhagor o fiwrocratiaeth a phrosesau er mwyn gallu gwerthu i’w cwsmeriaid ac i gwsmeriaid newydd yn yr UE ar ôl inni ymadael. Mae’n debygol y bydd hyn yn cael effaith ar adnoddau, ar gostau ac ar yr amser y bydd yn ei gymryd i nwyddau gyrraedd.
Mae Biocatalysts Ltd, sy’n cynhyrchu ensymau ac sy’n masnachu ledled y byd, wedi gwneud llawer o waith paratoi ond mae’r cwmni’n dal i weithio i liniaru’r heriau niferus a allai godi, gan gynnwys oedi mewn porthladdoedd a thariffau.
Dywedodd Eluned Morgan,
Rydyn ni’n gwybod mai un o’r prif bryderon a fyddai’n codi i fusnesau yn sgil Brexit heb gytundeb yw y byddai trafferthion mewn cadwyni cyflenwi ac mewn masnach yn gyffredinol yn arwain at gyfyngiadau o ran cyfalaf gweithio a llif arian.
Fe wyddom ni fod y problemau’n amrywio o gwmni i gwmni. Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod busnesau’n gallu cael gafael ar wybodaeth o ansawdd uchel, manylion technegol a chyngor angenrheidiol i’w galluogi i ddatblygu cyfleoedd allforio newydd.
Roedd yn bleser cwrdd â Daren Bryce, Cyfarwyddwr Masnachol, a’r tîm heddiw ac ro’n i’n falch o glywed eu bod nhw’n mynd ati mewn ffordd mor ragweithiol i amddiffyn eu cadwyn gyflenwi a’u hallforion i’r Undeb Ewropeaidd.
Rydyn ni’n parhau i gefnogi busnesau drwy ein rhwydwaith estynedig o weithredwyr tramor. Gall ein tîm allforio gynnig cymorth a chyngor amrywiol i helpu â materion penodol, gan gynnwys grant tuag at gost hyfforddiant achrededig ar allforio i’ch staff.