Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymroddedig i sicrhau bod pobl yn fwy diogel yn eu cartrefi. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni beidio â llaesu dwylo na meddwl bod ein gwaith i wella diogelwch tân wedi'i gwblhau. Dyna'r rheswm pam rwyf mor ymrwymedig i ddarparu'r rhaglen diogelwch adeiladau. Byddaf yn gwneud gwelliannau lle y bo'n bosibl i'r system diogelwch adeiladau bresennol ac rwy’n gweithio i gefnogi'r broses o gyflwyno diwygiadau deddfwriaethol cynhwysfawr yn y dyfodol.
Yng Nghymru, mae gennym hanes o gyflawni safonau uchel o ran diogelwch tân. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod tanau damweiniol mewn anheddau yng Nghymru yn is nag erioed. Maent wedi gostwng bron chwarter yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf ac maent wedi gostwng ymhellach yma nag yn unrhyw le arall ym Mhrydain. Ond rydym ymhell o fod yn fodlon ar y sefyllfa.
Mae ein deddfwriaeth o'r radd flaenaf sy'n sicrhau bod yn rhaid cael system chwistrellu ym mhob cartref newydd a phob cartref sydd wedi'i addasu yng Nghymru wedi cynyddu diogelwch tân ymhellach yn ein cartrefi. Rydym yn gwybod mai system chwistrellu yw'r ffordd orau o achub bywydau os ceir tân domestig, ac rwy'n gweithio i hyrwyddo ymhellach y defnydd o system chwistrellu mewn cartrefi presennol.
Pan gaiff adeiladau eu hadeiladu i'r safonau adeiladu priodol a'u cynnal a'u cadw'n briodol, maent yn lleoedd da i fyw a gweithio ynddynt a byddant yn parhau i fod felly. Yn anffodus, pan nad yw hyn yn wir, gellir tanseilio diogelwch adeiladau a pheryglu'r rheini sy'n byw ac yn gweithio ynddynt.
Er bod y rhan fwyaf o adeiladau preswyl uchel yng Nghymru wedi'u hadeiladu i'r safonau priodol, dros y misoedd diwethaf rwyf wedi cael gwybod am nifer o adeiladau preswyl uchel â diffygion adeiladu sylweddol. P'un a yw'r problemau'n ymwneud â chladin yr adeilad, y rhaniad rhwng fflatiau neu brinder rhwystrau tân, maent yn effeithio ar gydlyniad cyffredinol yr adeilad a’i ddiogelwch tân. Yn yr achosion gwaethaf, mae’n golygu, pe bai tân yn dechrau, sy’n annhebygol, ond yn bosibl, y gallai bywydau fod mewn perygl. Mae hyn yn annerbyniol.
Adeiladwyd rhai o'r adeiladau hyn yn ystod y 10 neu 15 mlynedd diwethaf. Yn hytrach na chael eu hachosi gan waith cynnal a chynnal gwael neu esgeulustod, mae'n ymddangos bod y namau hyn, o bosibl, yn deillio o grefftwaith gwael, goruchwyliaeth amhriodol ac, mae'n ymddangos ar adegau, ddiffyg parch at reoliadau adeiladu.
Mae unioni'r diffygion adeiladu hyn yn gostus. Amcangyfrifir y bydd adfer rhai adeiladau preswyl uchel yn costio miliynau o bunnoedd.
Rwyf wedi cyfleu'n gyson na ddylid disgwyl i lesddeiliaid dalu i unioni problemau sy'n deillio o fethiant i adeiladu i safonau ansawdd priodol nac achosion sy'n torri rheoliadau adeiladu.
Fodd bynnag, mewn sawl achos sydd wedi dod i'm sylw yn ddiweddar, mae’n ymddangos nad yw'r gwarantau neu'r polisïau yswiriant perthnasol yn barod i dderbyn atebolrwydd neu na allant wneud hynny, ac o dan delerau rhai contractau lesddaliadau, mae'n ymddangos bod y lesddeiliad yn atebol yn ôl y gyfraith am gost y gwaith.
Mae rhai lesddeiliaid bellach mewn sefyllfa lle mae landlordiaid ac asiantiaid rheoli yn mynnu degau ar filoedd o bunnoedd i dalu am y gwaith adfer angenrheidiol. Mae hyn yn gwbl annheg â'r rheini sydd wedi prynu eu heiddo gyda phob ewyllys da ac sydd bellach yn wynebu straen ariannol sylweddol.
Er i Lywodraeth Cymru ariannu'r sector cyhoeddus i gael gwared ar gladin Deunydd Cyfansawdd Alwminiwm nad oedd yn cydymffurfio â’r safonau – sef y cladin peryglus ar Dŵr Grenfell – ni ellir disgwyl i drethdalwyr ariannu methiannau wrth adeiladu adeiladau preswyl sector preifat.
Credaf y dylai perchnogion adeiladau a datblygwyr ysgwyddo eu cyfrifoldeb moesol ac unioni'r diffygion hyn, neu fel arall byddant yn peryglu eu henw proffesiynol da.
Bydd diddordeb diweddar y cyfryngau yn y maes hwn wrth gwrs wedi peri pryder i'r rheini sy'n byw mewn adeiladau uchel. Byddwn yn annog preswylwyr a lesddeiliaid i fynd at eu landlord neu eu hasiant rheoli yn y lle cyntaf i geisio sicrwydd drwy ofyn rhai cwestiynau allweddol, megis:
- A oes polisi gadael yr adeilad petai tân ar waith? Os oes polisi, beth yw'r polisi?
- A oes polisi diogelwch tân cytunedig ar waith?
- Pryd y cynhaliwyd yr asesiad risg tân diwethaf? Beth oedd y canlyniad? Pa gamau gweithredu sydd wedi cael eu cymryd o ganlyniad?
- A yw'r landlord neu'r asiant rheoli wedi cysylltu â'r awdurdod lleol a/neu'r Gwasanaeth Tân ac Achub i drafod unrhyw werthusiadau o'r adeilad?
- Os nodwyd diffygion adeiladu neu risgiau diogelwch tân, pa mor gyflym y cânt eu hunioni, a pha gamau lliniarol y mae angen eu sefydlu yn y cyfamser?
Dylai herio landlordiaid ac asiantiaid rheoli er mwyn sicrhau bod cynlluniau digonol ar waith roi rhywfaint o dawelwch meddwl i breswylwyr a lesddeiliaid. Os nad yw preswylwyr a lesddeiliaid yn cael ymateb boddhaol, dylent fynegi eu pryderon yn uniongyrchol i'r awdurdod lleol neu'r Gwasanaeth Tân ac Achub.
Rwy'n deall y rhwystredigaeth y mae preswylwyr yn ei theimlo pan ddywedir wrthynt nad yw eu cartrefi, o bosibl, yn ddiogel ac nad yw'r sawl â'r cyfrifoldeb am adeiladu neu gynnal a chadw'r adeilad yn barod i helpu, neu na all helpu.
Mae dyletswyddau cyfreithiol ar awdurdodau lleol a Gwasanaethau Tân ac Achub i helpu i sicrhau bod eiddo yn ddiogel ac mae ganddynt y pwerau i wneud hynny. Er bod rôl Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig yn y maes hwn, rwy'n benderfynol o ddefnyddio'r pwerau sydd gennyf i wella diogelwch tân cyn y gellir cyflwyno deddfwriaeth newydd.
Byddaf yn rhoi diweddariad llafar gerbron yr Aelodau ar 22 Hydref.