Mae cynlluniau ar gyfer uwchraddio Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494 wedi symud gam ymhellach heddiw wrth i'r Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, gyhoeddi bod y dewis a ffefrir wedi'i gadarnhau.
Cafodd ymgynghoriad 12 wythnos ei gynnal a gwelwyd bod llawer o gefnogaeth i'r dewis a ffefrir sef uwchraddio'r bont.
Mae Pont Afon Dyfrdwy, a gafodd ei hadeiladu ym 1960, yn gyswllt allweddol rhwng Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr. Mae tua 61,000 o gerbydau yn croesi'r bont, ac mae'n cysylltu pobl, cymunedau a busnesau â'r A55.
Cafodd y gwaith ei nodi yn nogfen 'Symud Cymru Ymlaen' Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio mynd i'r afael â phroblemau presennol yn yr ardal a sicrhau bod y bont yn addas i'w diben.
Bydd y gwaith uwchraddio yn rhan allweddol o gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella seilwaith trafnidiaeth Gogledd Cymru a sicrhau bod yr ardal yn fwy cydnerth.
Bydd y dewis a ffefrir yn cynnwys croesfan newydd dros yr afon ar gyfer traffig tua'r gorllewin a bydd rhan o'r Bont bresennol yn cael ei defnyddio ar gyfer traffig tua'r dwyrain. Bydd tair lôn a llain galed yn estyn o Afon Dyfrdwy i gyffordd Queensferry a fydd yn cynnwys cerbytffordd newydd oddi ar y ffordd bresennol ar gyfer traffig tua'r gorllewin. Bydd hyn yn sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu yn ystod y gwaith adeiladu, gan gynnal llif presennol y traffig.
Mae'r dewis hefyd yn cynnwys llwybr newydd ar gyfer beicwyr a cherddwyr a fydd yn helpu i annog teithio llesol ac yn gwella cysylltiadau o fewn parthau busnes.
Bydd yn gwneud y ffordd yn fwy diogel, yn sicrhau rhagor o gydnerthedd ac yn gwella amseroedd teithio ar y llwybr allweddol hwn i mewn i Ogledd Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates:
"Mae ffordd yr A494 yn ffordd allweddol i Ogledd Cymru, gan gysylltu'r ardal â Gogledd-orllewin Lloegr a thu hwnt.
"Mae gwaith uwchraddio Pont Afon Dyfrdwy yn gwbl allweddol er mwyn sicrhau bod y ffordd yn barod at y dyfodol, yn ddibynadwy ac yn gydnerth. Mae'n agwedd allweddol ar ein cynlluniau eang eu cwmpas i fuddsoddi mewn gwelliannau trafnidiaeth ar draws Gogledd Cymru.
"Bydd yn gwella mynediad at fusnesau, yn creu mwy o gyfleoedd ar gyfer beicio a cherdded ac yn gwella'r amgylchedd lleol.
"Yn dilyn yr ymgynghoriad ar y dewis a ffefrir rwy'n falch iawn ein bod bellach yn gallu symud ymlaen i'r cam nesaf, sef cyhoeddi gorchmynion drafft. Rwy'n disgwyl i hyn ddigwydd yn nes ymlaen eleni. "
Bydd y gwaith dylunio cychwynnol yn parhau yn awr ac mae disgwyl i'r Gorchmynion drafft a'r Datganiad Amgylcheddol gael eu cyhoeddi yn yr Hydref. Bydd cyfle i bobl fynegi barn yn eu cylch. Bydd arddangosfeydd cyhoeddus yn cael eu cynnal ar yr un pryd.
Gallai'r gwaith adeiladu gychwyn yn 2021, ar yr amod fod yr holl gydsyniadau statudol angenrheidiol wedi'u sicrhau.