Bydd Rebecca Evans y Gweinidog Cyllid yn edrych ar gyfleoedd i gynnal sector manwerthu cynaliadwy yng Nghymru pan fydd yn cyfarfod â Chonsortiwm Manwerthu Cymru heddiw.
Gydag adroddiadau diweddar yn nodi cynnydd yn nifer y siopau cadwyn sy'n cau, mae'r Gweinidog yn croesawu'r cyfle i glywed pryderon Consortiwm Manwerthu Cymru a thrafod sut y gall Llywodraeth Cymru wneud y defnydd gorau o'i hadnoddau i helpu.
Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Rebecca Evans:
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sector manwerthu iach yng Nghymru, yn enwedig mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd. I helpu i ysgafnhau’r pwysau hwn rydym wedi gwella ein cynllun rhyddhad ardrethi drwy roi £23.6 miliwn yn ychwanegol i fanwerthwyr y stryd fawr ac agor y cynllun i fanwerthwyr mewn lleoliadau eraill. Rydym wedi darparu £2.4 miliwn yn ychwanegol hefyd i awdurdodau lleol allu cynnig rhyddhad yn ôl disgresiwn. Mae hwn yn ychwanegol i'n cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach sy'n rhoi dros £100 miliwn o gymorth bob blwyddyn.
Fodd bynnag, nid yw ardrethi annomestig yn ddigon i ddatrys pob un o'r heriau sy'n wynebu canol trefi, gan fod y rhain yn deillio o newidiadau llawer mwy sylfaenol o fewn y sector manwerthu ac yn ein harferion siopa a hamddena.
Wrth ymateb i'r galwadau yr wythnos ddiwethaf ar Lywodraeth Cymru i helpu i adfywio'r stryd fawr drwy neilltuo rhywfaint o'r arian a gyhoeddwyd fel rhan o'r Cylch Gwariant diweddar, dywedodd y Gweinidog:
Nid yw cyhoeddiadau gwariant diweddaraf y Canghellor yn gwneud yn iawn am bron i ddegawd o doriadau. Y gwir amdani yw y bydd ein cyllideb yn 2020-21 yn parhau i fod 2% yn is mewn termau real nag yn 2010-11.
Ond er gwaethaf y cyfnod economaidd anodd, mae cefnogi canol trefi a'r stryd fawr yn dal i fod yn ganolog i’n gweithgareddau adfywio. Rydym wedi ymrwymo'n llawn i gyflawni prosiectau adfywio sy'n flaenoriaeth ym mhob rhan o Gymru – ac erbyn i'n rhaglenni presennol gael eu cwblhau byddwn wedi buddsoddi £800 miliwn mewn canol trefi ac ardaloedd cyfagos ers 2014.