Mae 2 fath o gorff rheoli adeiladu sy’n sicrhau bod rheoliadau adeiladu yn cael eu bodloni. Cewch wneud cais i naill ai:
- rheoliadau adeiladu yr awdurdod lleol
- cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu preifat (drwy’r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu)
Nodwch os gwelwch yn dda, rhaid i awdurdodau lleol oruchwylio unrhyw waith adeiladu newydd ar adeiladau risg uwch. Gallwch ddarganfod mwy am adeiladau risg uwch yn y Llawlyfr i Gymru ar Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 Cyfnod Dylunio ac Adeiladu.