Mae Llywodraeth Cymru wedi denu cwmni cynhyrchu ceir newydd i Gymru a fydd yn creu hyd at 500 o swyddi ar safle ar bwys ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd INEOS Automotive yn adeiladu ffatri gynhyrchu a chydosod newydd arbennig, 250,000 tr sg o faint, ym Mharc Busnes Brocastell i gynhyrchu'r cerbyd Grenadier 4x4 newydd.
Bydd digon o le yn yr ardal fusnes newydd, wrth Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, ar gyfer 500,000 tr sg arall ac mae ganddo'r potensial i gynnal llawer mwy o swyddi ar gyfer cwmnïau sydd am ehangu a buddsoddwyr newydd sydd am ddod i Gymru.
I gael lle ar gyfer y ffatri newydd, mae'r cwmni'n prynu 14 erw o dir oddi wrth Lywodraeth Cymru am bris y farchnad. Mae'r gwaith i ddatblygu seilwaith y safle eisoes wedi dechrau gyda'r gobaith y gellir dechrau cynhyrchu'r cerbyd newydd mor fuan â dechrau 2021.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:
"Mae hon yn bleidlais fawr o hyder yng ngweithlu ac economi Cymru ar adeg hynod anodd.
"Yn ogystal â bod yn newyddion da i Ben-y-bont wrth reswm - a'r cyntaf, gobeithio, o nifer o gyhoeddiadau cyffrous eraill yn yr ardal - mae'n profi hefyd fod Cymru'n dal i fod yn lle deniadol i fuddsoddwyr er gwaetha ansicrwydd Brexit.
"Ni fydd hyn yn golygu bod ein gwaith i helpu Pen-y-bont yn sgil cynigion Ford yn dod i ben a byddwn yn dal ati i ymroi i geisio denu busnesau newydd, cefnogi gweithwyr Ford a sicrhau dyfodol cyffrous i'r dre.
"Mae'n bleser gen i groesawu INEOS Automotive i Gymru ac rwy'n hapus iawn mai nhw yw'r diweddaraf mewn cyfres glodwiw o gwmnïau sydd wedi llofnodi'n Contract Economaidd, â'i nod o sbarduno twf ac annog cwmnïau i fod yn gyflogwyr cyfrifol. Mae iechyd a lles ei weithwyr eisoes yn rhan bwysig o ethos INEOS ac mae'r Contract Economaidd yn dyst o hynny.
"Rwy'n disgwyl ymlaen at weld y safle'n cael ei ddatblygu, yn barod ar gyfer dechrau cynhyrchu yn 2021.
Bydd lle yn yr adeilad newydd a rhannau eraill o Barc Busnes Brocastell i'r busnes dyfu a chyflogi rhagor o weithwyr.
Mae INEOS Automotive eisoes yn trafod â dau gwmni cyflenwi cydrannau o Gymru i'w helpu â'i waith a gallai hynny fod yn hwb arall i economi Cymru.