Jasmine Williams
Gwobr Person Ifanc enillydd 2018
Mae Jasmine Williams yn 11 mlwydd oed. Mae'n byw yn Llanilltud Faerdref ger Pontypridd gyda'i rhieni a'i thri brawd/chwaer, ac mae'n mynychu Ysgol Gyfun Bryncelynnog.
Mae Jasmine (neu Jas, fel arall) yn llon ac yn hoff o chwaraeon ac mae'n dwli ar bêl-droed a mynd i'r sinema. Y Nadolig diwethaf, roedd Jasmine yn y sinema gyda'i theulu. Wrth iddynt adael, gwelodd Jas ddyn digartref yn eistedd ar y pafin. Heb amheuaeth, fe roddodd ei harian poced iddo, ond roedd hi dal yn meddwl amdano ar ôl cyrraedd adref. Yna, dechreuodd Jas i feddwl am ffyrdd o godi arian i helpu pobl ddigartref eraill yn Rhondda Cynon Taf. Ffair grefftau oedd y digwyddiad cyntaf, a gododd £684.40. Ras hwyl leol i deuluoedd oedd y digwyddiad nesaf, o amgylch Llanilltud Faerdref, a lwyddodd i godi £628.22. Roedd nifer o ddigwyddiadau ac ymdrechion i godi arian i ddilyn gan Jasmine, gan gynnwys cymryd rhan mewn Hanner Marathon Caerdydd.
Hyd yma eleni, mae wedi codi’r swm rhagorol o £1,593.96 – gydag addewid o arian cyfatebol gan Hanner Marathon Caerdydd, sy'n dod i gyfanswm o £2,363.16. Mae Jas wedi arddangos tosturi gwirioneddol ac aeddfedrwydd y tu hwnt i'w hoedran i helpu'r rhai sy'n llai ffodus na hi. Mae ei phendantrwydd anhunanol a chyson i godi arian ac ymwybyddiaeth trwy gymaint o wahanol weithgareddau, yn ogystal â helpu mewn modd ymarferol trwy gasglu dillad, taclau ymolch a nwyddau eraill, yn wirioneddol eithriadol.
Mae Jas yn garedig iawn, ac yn rhoi o'i hamser ei hun i wneud hyn i gyd gan ei bod hi am wneud bywyd yn well i bobl eraill. Mae hefyd yn amlwg ei bod yn dylanwadu ar y rhai sydd o'i chwmpas i wneud yr un peth, gan helpu i newid bywydau pobl er gwell.