Cylch gorchwyl
Yn disgrifio amcanion, aelodaeth a threfniadau gwaith y grŵp.
Cynnwys
Gweledigaeth y grŵp
Sicrhau bod Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru yn cael eu rheoli'n effeithiol a'u gwella i ddiogelu bioamrywiaeth forol, yr ecosystem ehangach a manteision economaidd-gymdeithasol i Gymru.
Diben y grŵp
Llywio a hyrwyddo'r gwaith o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn effeithiol, gan godi proffil gwaith rheoli'r Ardaloedd ac ennyn cefnogaeth awdurdodau rheoli a rhanddeiliaid ehangach ledled Nghymru.
Rôl y grŵp
- Cyfrannu at ddatblygu gweledigaeth ac amcanion rheoli Rhwydwaith yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru.
- Datblygu cynllun ar gyfer rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn well, sy'n cynnwys strwythurau darparu rheolaeth cyson ac sy'n creu ffyrdd gwell o weithio.
- Blaenoriaethu materion rheoli ledled Cymru a llywio'r modd y targedir y defnydd o adnoddau sy'n gysylltiedig â'r blaenoriaethau hyn.
- Datblygu canllawiau strategol ar weithredu camau â blaenoriaeth.
- Rhoi cyngor a chanllawiau ar sut i sefydlu grwpiau rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig.
- Llywio'r gwaith o fonitro anghenion sy'n ymwneud â blaenoriaethau rheoli.
- Hyrwyddo cyngor sy'n cael ei ddatblygu gan y grŵp a'i roi i awdurdodau a rhanddeiliaid rheoli.
Aelodaeth
Bydd yr aelodau canlynol yn rhan o'r grŵp:
Llywodraeth Cymru - Cadeirydd
- Graham Rees, Pennaeth yr Is-adran Morol a Physgodfeydd
Llywodraeth Cymru
- Julian Bray, Pennaeth Bioamrywiaeth a Chadwraeth Forol
- Richard Lowcock James, Swyddog Polisi Bioamrywiaeth a Chadwraeth Forol
Cyfoeth Naturiol Cymru
- Rhian Jardine
- Maggie Hatton Ellis
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Trevor Theobald
Ystad y Goron
- Olivia Thomas
Dŵr Cymru
- Eve Read
Y Parciau Cenedlaethol (Eryri a Sir Benfro)
- Tegryn Jones
Awdurdodau Porthladdoedd a Harbwr
- Jonathan Monk
Cynghorydd EMSO
- Alison Palmer Hargrave (Cynghorydd rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig ar safle, wedi'i ddarparu gan Swyddog Safleoedd Morol Ewropeaidd o Ben Llŷn a'r Sarnau).
Trefniadau gweithio
Bydd y grŵp yn cael ei gadeirio gan Bennaeth Is-adran Morol a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru. Bydd y Grŵp yn atebol i Fwrdd Prosiect yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Bydd y bwrdd hefyd yn ei oruchwylio.
Llywodraeth Cymru fydd yn darparu rôl yr Ysgrifennydd. Bydd agenda a phapurau yn cael eu cyflwyno i aelodau'r grŵp o leiaf wythnos cyn cyfarfod. Bydd cofnodion a chamau gweithredu cyfarfod yn cael eu hanfon 7 niwrnod yn ddiweddarach.
Bydd y grŵp yn cwrdd 2-3 gwaith y flwyddyn ond mae'n debygol y bydd y grŵp yn cwrdd yn amlach yn y flwyddyn gyntaf wrth iddo weithio ar y cynllun paratoi a gwella.
Adolygiad
Bydd adolygiad blynyddol yn cael ei gynnal o ddiben, amcanion ac aelodaeth y grŵp.