Mae’r adroddiad yn cyflwyno tystiolaeth yn unol â’r 10 maen prawf cyfeirio a luniwyd gan Gyngor yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mai 2017.
Manylion
Fe’i comisiynwyd gan bartneriaeth weithredol strategol y Fframwaith Credydau a Chymwysterau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Gallwch ddarllen yr adroddiad ar wefan ColegauCymru.