Cylch gorchwyl
Crynodeb o ddiben y bwrdd a sut y bydd yn gweithio (diwygiwyd Mehefin 2019).
Cynnwys
Diben
Mae'r Bwrdd Cyflawni'n rheoli ac yn symud ymlaen busnes gweithredol y rhaglen waith a amlinellir yn Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl (y rhaglen). Mae'r Bwrdd yn monitro'r hyn a gyflawnir a'r perfformiad, gan sicrhau bod prosesau cadarn yn cael eu dilyn, ac yn gwneud argymhellion mewn perthynas â phenderfyniadau i'w cymeradwyo gan Fwrdd Newid y rhaglen. Gall y Bwrdd uwchgyfeirio materion i'r Bwrdd Newid ar gyfer sicrwydd ychwanegol lle bo angen, ac mae'n helpu i nodi risgiau'r rhaglen ac yn awgrymu mesurau i fynd i'r afael â nhw.
Tasgau allweddol
Bydd y bwrdd yn:
- monitro'r hyn a gyflawnir yn erbyn cerrig milltir y rhaglen ar gyfer partneriaid a Llywodraeth Cymru
- gwneud argymhellion mewn perthynas â phenderfyniadau sy'n cyfrannu at gyflawni amcanion lefel uchel y rhaglen a'r camau gweithredu cysylltiedig
- argymell gwaith i'w uwchgyfeirio er mwyn cael cymeradwyaeth pellach, a
- darparu cyfeiriad ac arweinyddiaeth o ran cyfathrebu â phartneriaid, gan sicrhau bod rhanddeiliaid mewnol ac allanol wedi'u cynnwys ac yn wybodus drwy gydol y broses o weithredu'r rhaglen.
Rolau a chyfrifoldebau
Mae aelodau'r Bwrdd yn gyfrifol am:
- ddarparu cyngor ac arweiniad ar gyfeiriad y rhaglen, a
- rhaeadru gwybodaeth, camau gweithredu a phenderfyniadau sy'n deillio o gyfarfodydd y Bwrdd i'r timau a'r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli.
Amlder y cyfarfodydd
Bydd y Bwrdd yn cwrdd yn fisol fel arfer, ond gall hyn amrywio i gyd-fynd ag adegau penderfynu allweddol yn y rhaglen. Lle bo angen, gellir gwneud penderfyniadau y tu allan i'r cyfarfodydd.
Ysgrifenyddiaeth
Tîm y rhaglen yng Nghyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru fydd yn darparu cymorth gweinyddol i'r Bwrdd.
Aelodaeth
Mae aelodau'r Bwrdd Newid yn cynnwys cynrychiolwyr ar lefel Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Dirprwy Gyfarwyddwr, ac ar lefel gyfatebol o'r haen ganol gan gynnwys Awdurdodau Lleol, Awdurdodau Esgobaethol, y Consortia Addysg Rhanbarthol, Estyn, Cymwysterau Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg.
Aelodau
- Estyn
- Cymwysterau Cymru
- Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru
- Consortiwm Canolbarth y De (CSC)
- Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS)
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Consortiwm Gogledd Cymru (GwE)
- Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) (i'w gadarnhau)
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) (i'w gadarnhau)
- Cyfarwyddwyr Addysg Esgobaethol Cymru
- Colegau Cymru
- Swyddfa Archwilio Cymru (i'w gadarnhau)
- Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol (i'w gadarnhau)
- Llywodraeth Cymru - Addysg, Cynllunio Busnes a Llywodraethiant
- Llywodraeth Cymru - Cwricwlwm
- Llywodraeth Cymru - Effeithiolrwydd Ysgolion
- Llywodraeth Cymru - Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol
- Llywodraeth Cymru - Cymorth i Ddysgwyr
- Llywodraeth Cymru - y Gymraeg
- Llywodraeth Cymru - Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
- Llywodraeth Cymru - Ymgysylltu - Ysgolion a Phobl Ifanc
- Llywodraeth Cymru - Archwilio Mewnol
- Llywodraeth Cymru - Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes