Mae'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi condemnio penderfyniad "hollol afresymol" Llywodraeth y DU i rwystro datganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru.
Roedd Pwyllgor Materion Cymreig Senedd y Deyrnas Unedig wedi argymell datganoli'r dreth i Gymru erbyn 2021, gan sicrhau bod y drefn yng Nghymru yn gyson â'r trefniadau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Awgrymodd y pwyllgor hefyd bod anfodlonrwydd Llywodraeth y DU i ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru yn codi cwestiwn ynglŷn â thegwch y broses ddatganoli.
Gan ymateb i benderfyniad Llywodraeth y DU heddiw, dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:
“Mae Llywodraeth y DU yn prysur redeg allan o resymau i beidio gwneud Cymru yn gyfartal â'r Alban a Gogledd Iwerddon o ran y Doll Teithwyr Awyr.
"Gyda chefnogaeth mor eang ar gyfer y mesur hwn yn drawsbleidiol, mae'n amlwg nad oes gan Lywodraeth ddi-drefn y DU y gallu i wneud penderfyniadau synhwyrol.
"Does dim rhesymeg i benderfyniad Llywodraeth y DU. Ar un llaw, mae’n dadlau y byddai datganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru yn rhoi mantais annheg i Faes Awyr Caerdydd dros feysydd awyr rhanbarthol eraill y DU oherwydd ei bod yn credu y byddwn yn torri trethi – ond ar y llaw arall, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud ei fod yn bryderus y bydd Cymru yn codi'r trethi.
“Ond byddai datganoli Toll Teithwyr Awyr yn golygu y byddai gan Gymru’r hawl i gynllunio system sy'n gweithio i Gymru - ac nid i lywodraeth San Steffan.
"Nid yw'r penderfyniad hwn yn gwneud unrhyw beth i brofi bod y Prif Weinidog am gadw ei addewid i ryddhau pwerau cynhyrchiol i'r DU gyfan.
"Gwyddom fod cefnogaeth unfrydol o'r sectorau hedfan, twristiaeth a busnes yng Nghymru i ddatganoli Toll Teithwyr Awyr a byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i newid ei meddwl."
Bydd datganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru yn arwain at fanteision economaidd amlwg i Gymru.
Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Mae'r penderfyniad afresymol hwn yn cyfyngu ar ein gallu i hyrwyddo Cymru i farchnadoedd tramor, ar adeg pan mae angen hynny fwyaf.
"Mae angen i Lywodraeth y DU weld bod yma achos clir i ddatganoli'r pŵer hwn er lles Cymru a'r DU gyfan."
Mae datganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru yn cyd-fynd â dull Llywodraeth y DU o fynd ati i ddatganoli trethi sy'n gorgyffwrdd â chyfrifoldebau datganoledig eraill. Bydd datganoli Toll Teithwyr Awyr hefyd yn ysgogiad defnyddiol posibl i gyflwyno cyfrifoldebau datganoledig eraill yn ymwneud â datblygiad economaidd a thwristiaeth.