Sure Chill
Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Enillwyr Gwobrau Busnes Caerdydd 2017, mae Sure Chill yn gwmni technoleg oeri arloesol, a'i nod yw chwyldroi'r ffordd mae'r byd yn oeri. Yn wahanol i oergelloedd confensiynol, nid oes angen pŵer parhaus ar dechnoleg Sure Chill. Mae'n harneisio ffenomen naturiol mewn dŵr er mwyn storio pŵer, sy'n caniatáu sawl wythnos o oeri parhaus heb yr angen am bŵer cyson.
Datblygwyd y dechnoleg dan batent er mwyn diogelu brechlynnau sy'n achub bywydau ac sy'n sensitif i dymheredd mewn gwledydd datblygol lle mae diffoddiadau pŵer yn digwydd yn rheolaidd. Heddiw, defnyddir oergelloedd gyda thechnoleg Sure Chill mewn 47 o wledydd gan UNICEF a gweinyddiaethau iechyd, sy'n helpu i amddiffyn bywydau dros 300 miliwn o blant.
Cefnogir y cwmni gan ddau o sefydliadau mwyaf blaenllaw'r byd: Sefydliad Bill a Melinda Gates, a Sefydliad Shell, sy'n cydnabod potensial digynsail Sure Chill o ran helpu i ddatrys heriau byd-eang gwahanol.
Cydnabuwyd y potensial syfrdanol hwn gan Lywodraeth Dubai hefyd, a ddewisodd Sure Chill yn 2016 fel un o dechnolegau mwyaf arloesol y byd. Gwnaethant gydnabod bod Sure Chill yr un mor berthnasol mewn economïau datblygedig, gan gyflwyno cam sylweddol ymlaen o ran rheoli pŵer yn ôl y galw, a oedd yn caniatáu i oergelloedd redeg yn ddidrafferth gan ddefnyddio ond ychydig o oriau o bŵer bob dydd.
Mae'r cwmni newydd lwyddo i gyflawni cynllun peilot gydag Awdurdod Trydan a Dŵr Dubai i reoli'r amseroedd pan ddefnyddir ynni, gan leihau costau ynni'n sylweddol ar gyfer perchnogion tai a busnesau, a hyrwyddo'r defnydd o ffynonellau ynni adnewyddadwy ar yr un pryd.
Mae Sure Chill bellach yn cynnal trafodaethau partneriaeth gyda rhai o frandiau mwyaf y byd i helpu i ddatrys eu heriau oeri ac ynni.