Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau: Hysbysiad gronynnau mân
Mae hwn yn dweud wrth weithredwyr safleoedd tirlenwi beth sydd raid iddynt ei wneud wrth dderbyn gronynnau mân gwastraff ar safle er mwyn cymhwyso am y gyfradd is o dreth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Cyflwyniad
1.1 Cyffredinol
Cyhoeddir yr Hysbysiad hwn gan Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) o dan adran 17(5) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (“DTGT”) ac adran 191 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“DCRhT”). Mae’r Hysbysiad yn atodol i:
- Rhan 2 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (cymysgeddau o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân), ac
- adran 39 o DCRhT (dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth).
Mae’r Hysbysiad yn ymwneud â’r dreth sydd i’w chodi ar warediadau gronynnau mân. Gronynnau mân yw gronynnau a gynhyrchir gan broses trin gwastraff sy’n cynnwys elfen o driniaeth fecanyddol.
Pan fo cymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân:
- yn bodloni gofynion 1 i 6 yn adran 16 o DTGT a gofynion 1 i 4 yn rheoliad 4 o Reoliadau 2018, ac
- yn cael ei waredu ar safle tirlenwi awdurdodedig,
caniateir trin y cymysgedd fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau a bydd y dreth gwarediadau tirlenwi i’w chodi ar y gyfradd is ar warediadau o’r gymysgedd.
Mae rhai o ofynion Rheoliadau 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig wneud pethau a bennir yn yr Hysbysiad ACC, neu wneud pethau yn unol â’r Hysbysiad ACC. Hwn yw’r Hysbysiad ACC y mae’r Rheoliadau yn cyfeirio ato.
1.2 Y personau y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â’r Hysbysiad hw
Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yng Nghymru gydymffurfio â’r Hysbysiad hwn os ydynt yn dymuno i unrhyw gymysgeddau o ddeunyddiau:
- sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân, ac
- a waredir ar eu safleoedd tirlenwi awdurdodedig ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018,
gael eu trin fel cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau.
- Safle tirlenwi awdurdodedig yw safle y rhoddwyd trwydded amgylcheddol mewn perthynas ag ef yn awdurdodi gwaredu deunydd drwy dirlenwi o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 a bod y drwydded honno yn parhau mewn grym.
- Gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig yw deiliad y drwydded amgylcheddol sy’n awdurdodi gwaredu deunydd drwy dirlenwi ar y safle.
1.3 Geirfa
Yn yr Hysbysiad hwn:
- mae “chi”, “ichi” neu “eich” yn gyfeiriad at weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig;
- ystyr “safle tirlenwi” yw safle tirlenwi awdurdodedig;
- ystyr “cymysgedd o ronynnau mân” yw cymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân.
Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn yr Hysbysiad hwn ac yn DTGT yr ystyr a roddir iddynt yn DTGT.
2. Y gofynion cyn derbyn
2.1 Cyffredinol
Cyn derbyn llwyth sydd ar ffurf cymysgedd o ronynnau mân i’w waredu ar eich safle tirlenwi:
Rhaid ichi gynnal arolygiad gweledol i ganfod pa un a yw’r llwyth ar ffurf:
- un neu ragor o ddeunyddiau cymwys, a
- swm bychan o un deunydd anghymwys neu ragor sy’n atodol i’r deunyddiau cymwys.
Rhaid ichi hefyd gynnal gwiriadau cyn derbyn eraill i ganfod pa un a yw’r llwyth ar ffurf cymysgedd cymwys o ddeunyddiau a llenwi holiadur cyn derbyn mewn perthynas â’r cymysgedd o ronynnau mân yn y llwyth. Rhaid i’r holiadur ddarparu’r wybodaeth a bennir yn adran 2.2 o’r Hysbysiad hwn.
Os cynhyrchir llwythi lluosog o’r un cymysgedd o ronynnau mân gan yr un cynhyrchydd gwastraff, caniateir llenwi un holiadur mewn perthynas â’r holl lwythi hynny. Ond rhaid ichi lenwi holiaduron ar wahân:
- ar gyfer cymysgeddau o ronynnau mân sy’n tarddu o gynhyrchwyr gwastraff gwahanol, a
- ar gyfer cymysgeddau o ronynnau mân sy’n tarddu o’r un cynhyrchydd gwastraff ond sy’n deillio o wahanol ffrydiau gwastraff a/neu broses.
Rhaid ichi ddiweddaru pob holiadur cyn derbyn a lenwir yn rheolaidd a’i storio’n ddiogel yn unol ag adran 38 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 er mwyn ichi allu dangos bod pob ffurflen dreth sy’n ymwneud â gwarediad o’r cymysgedd o ronynnau mân yn gywir ac yn gyflawn.
Os ydych yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o’r gofynion hyn, bydd y dreth gwarediadau tirlenwi i’w chodi ar y gyfradd safonol ar warediad pob llwyth y mae’r methiant yn ymwneud ag ef.
Os ydych yn methu â llenwi holiadur cyn derbyn a’i storio’n ddiogel, gallwch hefyd fod yn agored i gosb o dan reoliad 8(1)(b)(i) o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018.
2.2 Yr hyn sydd i’w gynnwys ar holiadur cyn derbyn
Rhaid i bob holiadur cyn derbyn a lenwir ddarparu’r wybodaeth a ganlyn am y cymysgedd o ronynnau mân y mae’n ymwneud ag ef.
- Enw a chyfeiriad busnes y cynhyrchydd gwastraff.
- Disgrifiad o fusnes y cynhyrchydd gwastraff a’r cyfleuster lle y cynhyrchir y cymysgedd o ronynnau mân.
- Manylion pob ffrwd wastraff y mae’r cymysgedd o ronynnau mân yn deillio ohoni, gan gynnwys
- y cod ar gyfer pob ffrwd wastraff. Caiff disgrifiad o'r cymysgedd o ronynnau mân a'r cod(au) priodol ar gyfer y cymysgedd o'r rhestr o wastraffoedd ei bennu gan Benderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC ac fe'i nodir yn 'Waste Classification: Guidance on the classification and assessment of waste (1st edition v1.1), Technical Guidance WM3’.
- datganiad ynghylch pa un a yw unrhyw un o’r ffrydiau gwastraff yn cynnwys gwastraff peryglus, ac
- os yw unrhyw ffrydiau gwastraff yn cynnwys gwastraff peryglus, rhestr o’r ffrydiau gwastraff hynny.
- Manylion pob proses a ddefnyddir i drin y ffrydiau gwastraff er mwyn cynhyrchu’r cymysgedd o ronynnau mân.
- Datganiad ynghylch pa un a dynnir gypswm ymaith o’r ffrydiau gwastraff wrth gynhyrchu’r cymysgedd o ronynnau mân; ac os tynnir gypswm ymaith, disgrifiad o’r broses a ddefnyddir i’w dynnu ymaith.
- Manylion unrhyw broses ddarnio neu gyfuno a ddefnyddir i gynhyrchu’r cymysgedd o ronynnau mân (fel y’i nodir yn 'Waste Classification: Guidance on the classification and assessment of waste (1st edition v1.1), Technical Guidance WM3’).
- Manylion trefniadau storio’r cymysgedd o ronynnau mân:
- yn y cyfleuster lle y cynhyrchir y cymysgedd,
- wrth ei drosglwyddo i’ch safle tirlenwi, ac
- ar unrhyw gam arall cyn ei waredu.
- Amcangyfrif o gyfanswm tunelledd y cymysgedd o ronynnau mân sydd i’w anfon i’ch safle tirlenwi bob blwyddyn. Os ydych yn gweithredu mwy nag un safle, rhaid ichi amcangyfrif cyfanswm y tunelledd sydd i’w anfon i’ch holl safleoedd.
Rhaid i’r holiadur a lenwir gynnwys datganiad:
- oddi wrth y cynhyrchydd gwastraff, neu berson sy’n gweithredu ar ran y cynhyrchydd gwastraff, ac
- oddi wrthych chi, neu berson sy’n gweithredu ar eich rhan,
bod yr wybodaeth a ddarperir yn yr holiadur yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a’i gred/eich gwybodaeth a’ch cred.
2.2.1 Trefniadau trosiannol
Os oeddech, yn union cyn 1 Ebrill 2018, wedi eich cofrestru o dan adran 47 o Ddeddf Cyllid 1996 at ddibenion treth dirlenwi’r DU ac:
- os ydych wedi llenwi holiadur cyn derbyn mewn perthynas â chymysgedd o ronynnau mân cyn 1 Ebrill 2018 yn unol â pharagraffau
6.5.1 a 6.5.2 o Hysbysiad Ecséis LFT1, ac - os yw’r holiadur hwnnw yn eich meddiant o hyd,
nid oes angen ichi lenwi holiadur cyn derbyn newydd ar gyfer y cymysgedd hwnnw o dan adran 2.1 o’r Hysbysiad hwn. Fodd bynnag, rhaid ichi adolygu’r holiadur presennol a’i ddiweddaru os yw hynny’n briodol.
3. Y gofynion sy’n ymwneud â phrofion Colled wrth Danio
3.1 Cyffredinol
Diben y prawf Colled wrth Danio yw canfod cynnwys organig y deunydd sydd wedi ei gynnwys mewn cymysgedd o ronynnau mân. Defnyddir y gwahaniaeth o ran màs y deunydd a brofir cyn ac ar ôl y broses danio i ganfod canran Colled wrth Danio’r deunydd.
Rhaid ichi gydymffurfio â’r gofynion sy’n ymwneud â phrofion Colled wrth Danio a nodir yn y Rhan hon o’r Hysbysiad.
Rhaid i gymysgeddau o ronynnau mân:
- sy’n tarddu o gynhyrchwyr gwastraff gwahanol, neu
- sy’n tarddu o’r un cynhyrchydd gwastraff, ond o wahanol ffrydiau gwastraff a/neu broses,
gael eu trin fel cymysgeddau ar wahân at ddibenion y gofynion sy’n ymwneud â’r profion Colled wrth Danio.
Mae’r gofynion sy’n ymwneud â’r profion Colled wrth Danio yn gymwys mewn perthynas â phob safle tirlenwi ar wahân. Os ydych yn weithredwr mwy nag un safle tirlenwi, rhaid ichi gydymffurfio â phob gofyniad Colled wrth Danio mewn perthynas â phob safle ar wahân.
3.2 Amlder profion Colled wrth Danio
Rhaid ichi gynnal profion Colled wrth Danio ar gymysgeddau o ronynnau mân sy’n bresennol ar eich safle/safleoedd tirlenwi:
- ar yr adegau a’r cyfnodau a bennir isod, neu
- pryd bynnag y mae ACC yn rhoi cyfarwyddyd ichi wneud hynny.
3.2.1 Y prawf Colled wrth Danio cyntaf
Rhaid ichi gynnal prawf Colled wrth Danio cyntaf ar bob cymysgedd o ronynnau mân:
- cyn bod y 500 tunnell gyntaf o’r cymysgedd wedi ei ddwyn ar eich safle tirlenwi, neu
- os yw’n gynharach, o fewn y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r dyddiad y dygir y llwyth cyntaf o’r cymysgedd ar eich safle tirlenwi.
3.2.2 Profion dilynol
Rhaid ichi gynnal profion Colled wrth Danio pellach ar bob cymysgedd o ronynnau mân ar gyfnodau a bennir drwy gyfeirio at y dangosyddion risg yn y Tabl isod.
- Os oes unrhyw un neu ragor o’r dangosyddion risg uchel yn bresennol mewn perthynas â’r cymysgedd, rhaid ichi ei drin fel cymysgedd risg uchel a chynnal prawf ar bob llwyth o’r cymysgedd a ddygir ar y safle tirlenwi hyd nes y bydd pob un o’r tri dangosydd risg isel yn bresennol.
- Mewn unrhyw achos arall, rhaid ichi drin y cymysgedd fel cymysgedd risg isel a chynnal prawf arno yn ôl y cyfnodau a bennir mewn perthynas â chymysgeddau risg isel.
Lefel Risgl |
Dangosyddion risg |
Amlder profion |
---|---|---|
Isel |
|
Rhaid ichi gynnal prawf:
|
Uchel |
|
Rhaid ichi gynnal prawf ar bob llwyth o’r cymysgedd a ddygir ar y safle tirlenwi hyd nes:
Ar y pwynt hwnnw, caniateir ailddosbarthu’r cymysgedd yn gymysgedd risg isel a chynnal profion arno yn unol â hynny. |
* Gweler adran 3.3.2 o’r Hysbysiad hwn ar gyfer yr amgylchiadau lle y caiff cymysgedd o ronynnau mân ei drin fel pe bai wedi methu’r prawf Colled wrth Danio; a gweler adran 3.3 o’r Hysbysiad hwn ar gyfer amgylchiadau lle y caniateir anwybyddu canlyniad prawf Colled wrth Danio.
3.2.3 Profion cynnar
Gallwch ddewis cynnal prawf Colled wrth Danio yn gynharach nag sy’n ofynnol o dan yr Hysbysiad hwn. Os ydych yn gwneud hynny, rhaid pennu’r pwynt pryd y mae’n rhaid cynnal y prawf Colled wrth Danio nesaf ar gymysgedd o ronynnau mân drwy gyfeirio at y pwynt pryd y cynhaliwyd y prawf cynnar ar y cymysgedd.
3.2.4 Profion hwyr neu brofion nas cynhaliwyd
- Os nad ydych yn cynnal prawf Colled wrth Danio sy’n ofynnol o dan yr Hysbysiad hwn, neu
- os ydych yn cynnal prawf Colled wrth Danio ar y cymysgedd yn hwyrach nag sy’n ofynnol,
rhaid pennu’r pwynt pryd y mae’n rhaid cynnal y prawf Colled wrth Danio nesaf ar y cymysgedd drwy gyfeirio at y pwynt pryd y dylid bod wedi cynnal y prawf hwyr neu’r prawf nas cynhaliwyd.
Mae’r dreth gwarediadau tirlenwi i’w chodi ar y gyfradd safonol ar bob llwyth o’r gymysgedd a waredir ar ôl y llwyth y dylid bod wedi cynnal y prawf hwyr neu’r prawf nas cynhaliwyd arno, hyd nes y cynhelir prawf Colled wrth Danio pellach ar y gymysgedd.
3.2.5 Cyfarwyddyd i gynnal prawf Colled wrth Danio
Caiff ACC, ar unrhyw adeg, roi cyfarwyddyd ichi gynnal prawf Colled wrth Danio ar gymysgedd o ronynnau mân.
Os nad ydych yn cydymffurfio â’r cyfarwyddyd, mae’r dreth gwarediadau tirlenwi i’w chodi ar y gyfradd safonol ar bob llwyth o’r cymysgedd a waredir ar ôl y dyddiad y dylid bod wedi cynnal y prawf, hyd nes y cynhelir prawf Colled wrth Danio pellach ar y cymysgedd.
3.3 Cynnal profion Colled wrth Danio
Rhaid cynnal pob prawf Colled wrth Danio:
- ar sampl gynrychioliadol o’r cymysgedd o ronynnau mân a gynhyrchir yn unol ag adran 3.3.1 o’r Hysbysiad hwn, ac
- yn unol â’r fethodoleg a nodir yn adran 3.3.2 o’r Hysbysiad hwn.
3.3.1 Cynhyrchu sampl gynrychioliadol
Er mwyn cynhyrchu sampl gynrychioliadol o’r cymysgedd, rhaid ichi:
- cymryd samplau o 6 man gwahanol, o leiaf, o fewn llwyth o’r cymysgedd;
- sicrhau bod y samplau a gymerir yn cynnwys samplau o bob rhan o’r llwyth, h.y. y brig, y canol a’r gwaelod, a bod y samplau yn cael eu dewis ar hap fel arall;
- sicrhau bod y samplau yn cael eu cymysgu’n drylwyr; a
- cynhyrchu sampl gyfansawdd (neu sampl feistr) o’r cymysgedd hwn o samplau.
Y sampl gyfansawdd (neu’r sampl feistr) hon yw’r sampl gynrychioliadol y mae’n rhaid ei pharatoi ar gyfer y prawf Colled wrth Danio.
3.3.2 Methodoleg y prawf Colled wrth Danio
Paratoi’r sampl
Rhaid ichi baratoi’r sampl gynrychioliadol ar gyfer y prawf Colled wrth Danio drwy gymryd y camau a ganlyn:
- sychu 1kg o’r sampl gynrychioliadol ar dymheredd rhwng 30°C a 50°C hyd nes y ceir pwysau cyson;
- creu côn o’r sampl 1kg a’i hollti i ddewis is-sampl 200g;
- tynnu ymaith unrhyw ddeunydd o’r is-sampl:
- sydd o fewn Grŵp 1 (creigiau a phridd) neu Grŵp 2 (deunydd cerameg neu goncrit) o’r Tabl yn Atodlen 1 i Ddeddf Treth
- sy’n fwy nag 20mm;
- cofnodi pwysau:
- y deunydd a dynnir ymaith, a
- yr is-sampl sy’n weddill;
- malu’r is-sampl sy’n weddill yn fân i ronynnau o 2mm neu lai i gynhyrchu sampl homogenaidd;
- pwyso unrhyw ddeunydd nad yw’n pasio drwy’r rhidyll 2mm a chofnodi ei bwysau cyn ychwanegu’r deunydd hwnnw yn ôl at yr is-sampl; a
- cymysgu a homogeneiddio’r is-sampl gyfunedig.
Yna rhaid cynnal y prawf Colled wrth Danio ar 20g o’r is-sampl gyfunedig, yn unol â’r fethodoleg a nodir isod. Rhaid cadw gweddill yr is-sampl am gyfnod o 3 mis sy’n dechrau â dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth y rhoddir cyfrif am waredu’r llwyth arni, fel y gellir ei hail brofi os yw’n briodol (gweler adran 3.4 o’r Hysbysiad hwn).
Cynnal prawf Colled wrth Danio ar sampl
Rhaid ichi gynnal y prawf Colled wrth Danio ar yr is-sampl gyfunedig drwy gymryd y camau a ganlyn:
- cymryd o leiaf 20g o’r is-sampl gyfunedig;
- ei gosod mewn dysgl sych a bwyswyd a chofnodi ei phwysau;
- ei sychu mewn ffwrn ar dymheredd o 180°C hyd nes y ceir pwysau cyson;
- ei hoeri mewn dysychwr am o leiaf 45 munud a chofnodi ei phwysau;
- ei throsglwyddo i ffwrnais fwffwl ar dymheredd o 440°C am o leiaf 5 awr; ac
- ei hoeri mewn dysychwr am o leiaf 45 munud a chofnodi ei phwysau eto.
Cyfrifo’r ganran Colled wrth Danio
Rhaid ichi gyfrifo canran Colled wrth Danio’r cymysgedd yn unol â’r fformiwla a ganlyn:
% Colled wrth Danio = (A x 100) / ((B x C / D) – E)
Pan fo:
- A y pwysau (mewn gramau) a gollir wrth danio ar 440°C;
- B yn 20 (h.y. pwysau’r sampl 20g);
- C yn 200 (h.y. pwysau’r sampl 200g);
- D yn bwysau’r sampl ar ôl tynnu ymaith y deunydd Grŵp 1 a Grŵp 2 sy’n fwy na 20mm;
- E y pwysau (mewn gramau) a gollir wrth sychu’r sampl 20g ar dymheredd o 180°C.
Os yw’r ganran Colled wrth Danio a ddangosir gan y prawf yn 10% neu lai, mae’r cymysgedd o ronynnau mân i’w drin fel pe bai wedi pasio’r prawf. Os yw’r ganran Colled wrth Danio a ddangosir gan y prawf yn fwy na 10%, mae’r cymysgedd i’w drin fel pe bai wedi methu’r prawf Colled wrth Danio (ond gweler adran 3.4 o’r Hysbysiad hwn).
Os yw cymysgedd o ronynnau mân yn methu’r prawf Colled wrth Danio, mae’r dreth gwarediadau tirlenwi i’w chodi ar y gyfradd safonol ar warediad y llwyth y cymerwyd y sampl ar gyfer y prawf ohono.
3.4 Ail brofi os methir prawf Colled wrth Danio
Os yw cymysgedd o ronynnau mân yn methu’r prawf Colled wrth Danio, caniateir cynnal un ail brawf ar y cymysgedd os bodlonir yr amodau a ganlyn:
- nad yw’r ganran Colled wrth Danio a ddangosir gan y prawf Colled wrth Danio gwreiddiol yn uwch na 10.5%, ac
- y cynhelir yr ail brawf:
- o fewn cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cafwyd canlyniad y prawf Colled wrth Danio gwreiddiol,
- drwy ddefnyddio’r is-sampl gyfunedig a baratowyd yn unol ag adran 3.2.2 o’r Hysbysiad hwn at ddibenion y prawf Colled wrth Danio gwreiddiol, ac
- yn unol â’r fethodoleg a nodir yn adran 3.3.2 o’r Hysbysiad hwn.
Os chi a gynhaliodd y prawf Colled wrth Danio gwreiddiol, cewch gynnal yr ail brawf eich hun. Os ACC a gynhaliodd y prawf Colled wrth Danio gwreiddiol, cewch ofyn i ACC gynnal yr ail brawf.
Os yw’r ganran Colled wrth Danio a ddangosir gan yr ail brawf yn 10% neu lai, cewch anwybyddu canlyniad y prawf gwreiddiol at ddibenion yr Hysbysiad hwn ac at ddibenion Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018.
3.5 Y gofynion o ran cadw cofnodion o brofion Colled wrth Danio
Rhaid ichi gadw cofnod o bob prawf Colled wrth Danio a gynhelir gennych. Rhaid i’r cofnod gynnwys yr wybodaeth a ganlyn:
- Eich enw, cyfeiriad eich busnes a’ch rhif ffôn.
- Y rhif cofrestru a aseiniwyd ichi gan ACC.
- Cyfeiriad y safle tirlenwi y cymerwyd sampl o lwyth o’r cymysgedd o ronynnau mân ohono.
- Rhif adnabod trafodiad y llwyth y cymerwyd y sampl ohono.
- Manylion y prawf, gan gynnwys:
- y dyddiad y cymerwyd y sampl o’r cymysgedd o ronynnau mân;
- y dyddiad y cynhaliwyd y prawf Colled wrth Danio ar y sampl;
- y dyddiad y cafwyd canlyniad y prawf (os yw’n wahanol);
- os cynhaliwyd y prawf ar eich rhan, y person a gynhaliodd y prawf;
- canlyniad y prawf (gan gynnwys y ganran Colled wrth Danio a ddangosodd y prawf).
- Os yw’r cymysgedd o ronynnau mân wedi methu’r prawf Colled wrth Danio:
- manylion y camau a gymerwyd yn dilyn y prawf;
- tunelledd y llwyth y cymerwyd y sampl ohono;
- manylion y cynhyrchydd gwastraff y cafwyd y llwyth ganddo, gan gynnwys:
(i) enw cynhyrchydd y gwastraff, ei gyfeiriad busnes a’i rif ffôn, a
(ii) disgrifiad o’r cyfleuster lle y cynhyrchwyd y llwyth;
-
- manylion y ffrwd wastraff yr oedd y llwyth yn tarddu ohoni.
Os yw’r cofnod yn ymwneud â phrawf Colled wrth Danio a fethwyd, rhaid iddo hefyd gynnwys datganiad oddi wrthych chi, neu berson sy’n gweithredu ar eich rhan, fod yr wybodaeth a ddarparwyd yn y cofnod yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth a’ch cred/ei wybodaeth a’i gred.
Rhaid ichi storio’r cofnod yn ddiogel yn unol ag adran 38(1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 er mwyn ichi allu dangos bod y ffurflen dreth sy’n ymwneud â gwarediad y llwyth y cymerwyd sampl y prawf Colled wrth Danio ohono yn gywir ac yn gyflawn.
Os ydych yn methu â chadw cofnod o brawf Colled wrth Danio neu’n methu â’i storio’n ddiogel, yn unol â’r adran hon, gallwch fod yn agored i gosb o dan reoliad 8(1)(b)(ii) o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018.
3.6 Camau ychwanegol i’w cymryd os methir prawf Colled wrth Danio
Pan fo cymysgedd o ronynnau mân sy’n bresennol ar eich safle yn methu’r prawf Colled wrth Danio, rhaid ichi hefyd:
- cyflwyno’r cofnod o’r prawf Colled wrth Danio (gweler adran 3.5 o’r Hysbysiad hwn) i ACC yn unol ag adran 3.7 o’r Hysbysiad hwn,
- adolygu’r gwiriadau cyn derbyn a gynhaliwyd ar y cymysgedd,
- adolygu’r holiadur cyn derbyn sy’n ymwneud â’r cymysgedd, a’i ddiwygio os oes angen, a
- cyfeirio at y Tabl yn 3.2.2 o’r Hysbysiad hwn er mwyn penderfynu a oes angen cynnal profion ar y cymysgedd yn amlach.
Rhaid ichi roi cyfrif am warediad y llwyth y cymerwyd sampl y prawf ohono a thalu treth ar y gyfradd safonol arno.
3.7 Y gofynion o ran adrodd ar brofion Colled wrth Danio
3.7.1 Gwybodaeth ar y ffurflen dreth TGT
Rhaid ichi ddarparu’r wybodaeth a ganlyn ar bob ffurflen dreth a ddychwelir gennych i ACC:
- Nifer y profion Colled wrth Danio a gynhaliwyd (gennych chi neu gan ACC), yn ystod y cyfnod cyfrifyddu y mae’r ffurflen dreth yn ymwneud ag ef, ar gymysgeddau o ronynnau mân a oedd yn bresennol ar eich safle/safleoedd tirlenwi.
- Nifer y profion hynny a oedd yn brofion Colled wrth Danio a fethwyd (h.y. nifer y profion lle roedd y ganran Colled wrth Danio a ddangoswyd gan y prawf yn uwch na 10%).
- Nifer y profion hynny a basiodd y prawf Colled wrth Danio.
- Nifer y profion yr ydych yn aros am ganlyniadau ar eu cyfer.
- Nifer y profion y gwnaethoch eu methu.
3.7.2 Gwybodaeth i gyd-fynd â ffurflen dreth TGT
Ym mhob achos, rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol ynghyd â phob ffurflen dreth a ddychwelir gennych i ACC:
- Am y profion Colled wrth Danio a gofnodwyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu, dadansoddiad o faint o'r profion a gynhaliwyd o dan y categorïau risg isel a risg uchel, yn y drefn honno (gweler adran 3.2.2 o'r Hysbysiad hwn).
- Cyfanswm pwysau trethadwy gwarediadau o gymysgeddau o ronynnau mân y mae treth gwarediadau tirlenwi cyfradd safonol yn berthnasol iddo, mewn perthynas â'r cyfnod cyfrifyddu hwnnw.
3.7.3 Gwybodaeth ychwanegol yn dilyn prawf Colled wrth Danio a fethwyd
Os methwyd unrhyw brofion Colled wrth Danio yn ystod y cyfnod cyfrifyddu, ynghyd â’r ffurflen dreth, rhaid amgáu:
- ffurflen prawf Colled wrth Danio Awdurdod Cyllid Cymru, wedi’i chwblhau, a
- cofnodion y profion Colled wrth Danio hynny gyda’r ffurflen dreth (oni bai y cynhaliwyd y profion Colled wrth Danio gan ACC).
Rhaid i bob cofnod prawf Colled wrth Danio gynnwys yr wybodaeth a bennir yn adran 3.5 o’r Hysbysiad hwn.
Nid yw’r adran hon o’r Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ichi ddarparu gwybodaeth neu gofnodion am brawf Colled wrth Danio a fethwyd:
- os cynhaliwyd ail brawf gennych ar y cymysgedd o ronynnau mân a fethodd y prawf Colled wrth Danio yn unol ag adran 3.4 o’r Hysbysiad hwn, neu os cynhaliodd ACC ail brawf arno, ac
- os nad oedd y ganran Colled wrth Danio a ddangoswyd gan yr ail brawf yn uwch na 10%.