Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn ymyrryd mewn achos cyfreithiol yn yr Uchel Lys gan gefnogi her gyfreithiol Gina Miller yn erbyn cyngor y Prif Weinidog i’r Frenhines i ohirio Senedd y DU.
Gwnaed Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ddydd Mercher diwethaf, ar gyngor llywodraeth y DU, i ohirio’r Senedd o’r ail wythnos eistedd ym mis Medi tan 14 Hydref.
Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn rhan o’r achos cynharach a ddygwyd gan Gina Miller yn 2017 yn y Goruchaf Lys, lle gwnaeth y Llys atal y Llywodraeth rhag osgoi’r Senedd wrth geisio cyflwyno rhybudd i adael yr UE heb awdurdod Seneddol.
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol:
“Mae’r Cynulliad wedi cydsynio i ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â Brexit yn y Senedd sy’n effeithio ar feysydd datganoledig ar y sail y byddai’r Senedd yn gallu parhau i eistedd i basio’r deddfau hynny.
“Mae gohirio Senedd y DU yn amddifadu ASau o’r cyfle i graffu’n briodol ar Lywodraeth y DU, ac i ddeddfu ar y telerau a fyddai’n galluogi’r DU i adael yr UE pe dymunent.
“Mae gan Aelodau’r Cynulliad yma yng Nghymru rôl hanfodol hefyd o ran cynghori’r Senedd ar sut y bydd Brexit heb gytundeb yn effeithio ar elfennau craidd yr economi a chymunedau yng Nghymru. Ni ellir gwneud hyn os yw'r Prif Weinidog wedi torri'r llinellau cyfathrebu.
“Nid ar chwarae bach yr wyf yn gwneud yr ymyrraeth hon. Fel Swyddog y Gyfraith, mae dyletswydd arnaf i gynnal rheolaeth y gyfraith a'r cyfansoddiad. Mae'r cyflwyniadau yr wyf wedi'u cyflwyno yn y Llys yn angenrheidiol, yn briodol, ac yn gymesur i amddiffyn buddiannau Cymru o ran sicrhau bod y Senedd yn cael eistedd.
“Nid yw fy ymyrraeth yn ailadrodd pwyntiau a wnaed gan yr Hawlydd, Gina Miller; nid ydynt chwaith yn ceisio'r hawl, ar hyn o bryd, i wneud cyflwyniadau llafar. Fy mwriad yw cynorthwyo'r Llys i benderfynu ar y materion cyfreithiol, ac egluro pam eu bod yn hanfodol bwysig i Gymru, ei phobl a'i deddfwrfa. ”