Efallai y gallwch deithio am ddim ar fysiau os ydych:
- yn anabl
- yn 60 oed neu fwy
- yn aelod wedi’i anafu o’r lluoedd arfog
Teithiau rhatach ar fysiau i bobl ifanc
Os ydych rhwng 16 a 21 oed ac yn byw yng Nghymru, gallwch wneud cais am FyNgherdynTeithio. Gallech gael gostyngiad o un rhan o dair wrth deithio ar fysiau.
Ei ddefnyddio ar drenau
Gallwch ddefnyddio’ch pas teithio rhatach ar rai trenau hefyd. Am ragor o wybodaeth, ewch i Trafnidiaeth Cymru.