Daeth yr ymgynghoriad i ben 15 Rhagfyr 2014.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 846 KB
Mynegai ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 6 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae Bil Cymru sydd gerbron Senedd y DU ar hyn o bryd yn nodi pwerau cyllidol newydd i Gymru, gan gynnwys pwerau i fenthyca ar gyfer buddsoddi cyfalaf a phwerau mewn perthynas â threthu.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae datganoli’r pwerau hyn yn gam sylweddol ymlaen a bydd yn caniatáu i Gymru ddatblygu trefniadau ariannu sy’n gweddu’n well i amgylchiadau a blaenoriaethau Cymru.
Mae’r Papur Gwyn hwn yn nodi ein cynigion i sefydlu trefniadau ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru a dyma’r cyntaf o dri ymgynghoriad a gynhelir ynghylch cynigion ar gyfer trethi Cymru. Bydd ymgynghoriadau ar gynigion ar gyfer trethi Cymru’n disodli Treth Dir y Dreth Stamp a’r Dreth Dirlenwi yn dilyn yn y gwanwyn 2015.
Mae’r ymgynghoriad yn cwmpasu:
- cynigion i sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru
- dewisiadau ar gyfer casglu trethi Cymru yn effeithlon ac yn effeithiol
- camau i hybu cydymffurfiad â threthi ac i fynd i’r afael â diffyg cydymffurfio gan gynnwys osgoi trethi
- trefniadau ar gyfer datrys anghydfodau threthi.