Mae Gweinidogion Cyllid Cymru a'r Alban wedi dweud nad yw'r trefniadau cyllid presennol rhwng Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig yn addas i'w diben.
Yn dilyn cyfarfod gyda Rishi Sunak, Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys, mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans a Derek Mackay, Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, wedi dweud nad oes gan Gymru a'r Alban y trefniadau ariannol angenrheidiol i ymateb i'r canlyniadau economaidd sy'n wynebu'r ddwy wlad o ganlyniad i'r anrhefn lwyr yn y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn rheoli ymadawiad y DU o'r UE.
Mae Ms Evans a Mr Mackay wedi galw am drefniadau newydd i sicrhau bod y gweinyddiaethau datganoledig yn cael yr eglurder, y gonestrwydd a’r ymrwymiad mewn perthynas â phenderfyniadau gwariant y DU yn y dyfodol sydd eu hangen arnynt er mwyn iddynt allu cynllunio ar gyfer eu cyllidebau.
Dywedodd Ms Evans:
“Rydw i wedi fy siomi bod y Prif Ysgrifennydd wedi methu â rhoi'r eglurder a'r ymrwymiad yr ydym wedi galw amdanynt dro ar ôl tro gan Lywodraeth y DU, ac nad ydym wedi bod yn onest â ni.
“Er gwaethaf cael addewid o Adolygiad o Wariant Cynhwysfawr tair blynedd yn y cyfarfod diwethaf o’r Gweinidogion Cyllid, rydym yn awr yn wynebu cylch cyllido blwyddyn o hyd yr wythnos nesaf. Ni allwn golli arian unwaith eto o ganlyniad i’r adolygiad hwnnw. Ar ôl naw mlynedd o gyni cyllidol, mae cyllideb Llywodraeth Cymru 5% yn is mewn termau real nag yr oedd yn ôl yn 2010.
“Rydym yn wynebu’r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, ac yn yr amgylchiadau hynny rydym yn gwybod bod economi Cymru yn debygol o fod tua 10 y cant yn llai yn y tymor hir. Byddai hyn yn cael ei adlewyrchu mewn incwm real a fyddai, yn nhelerau heddiw, hyd at £2,000 yn is y person nag a fyddai fel arall. Ychydig iawn o gysur a gafwyd yn y cyfarfod heddiw i’n helpu i ddelio â hynny.”
Dywedodd Mr Mackay:
“Mae gweithredoedd Llywodraeth y DU wrth iddi geisio cau'r Senedd er mwyn gorfodi ymadawiad heb gytundeb yn golygu bod y DU ar drothwy argyfwng economaidd.
“Ynghyd â Gweinidog Cyllid Cymru, rwyf wedi egluro'n gwbl glir wrth Brif Ysgrifennydd y Trysorlys pa effaith y bydd Brexit dim cytundeb yn ei chael ar yr economi a swyddi yn yr Alban. Rwyf wedi ei annog hefyd i roi sicrwydd pendant y bydd Llywodraeth y DU yn darparu cyllid yn lle’r holl gyllid a ddaw o'r UE ar hyn o bryd a fydd yn cael ei golli.
“Methodd y Prif Ysgrifennydd ddarparu'r sicrwydd hwn felly heriais ef i weithio gyda ni i gytuno ar fframwaith newydd ar gyfer dyraniadau cyllid yn y dyfodol. Mae'n edrych yn gynyddol debygol ein bod ni'n mynd i fod mewn sefyllfa lle na cheir cytundeb, ac nid yw'r trefniadau ariannol presennol yn addas i'w diben felly. Rhaid inni gael cytundeb newydd i sicrhau bod gan Lywodraeth yr Alban y pwerau angenrheidiol i helpu i liniaru, hyd eithaf ein gallu, y niwed a achosir gan weithredoedd Llywodraeth y DU a fydd yn golygu ein bod yn ymadael heb gytundeb.
“Mae’r penderfyniad i ariannu'r costau ychwanegol sy'n deillio o newidiadau i bensiynau'r sector cyhoeddus yn rhannol yn unig yn fwy o dystiolaeth eto fod angen fframwaith newydd er mwyn i Lywodraeth y DU roi’r parch sy’n ddyledus i’r gweinyddiaethau datganoledig.”