Mae deddf newydd gan Lywodraeth Cymru sy’n anelu at wneud pethau’n symlach ac yn decach i denantiaid yn dod i rym heddiw.
Mae’r ddeddf yn golygu ei bod bellach yn drosedd i godi unrhyw daliad ar denant nad yw’n ‘daliad a ganiateir’ gan ddeddfwriaeth. Golyga hyn na ellir codi tâl ar denantiaid am bethau fel mynd â darpar denantiaid i weld eiddo, derbyn rhestr o gynnwys a chyflwr eitemau yn yr eiddo, llofnodi contract neu adnewyddu tenantiaeth. Amcangyfrifir y bydd y ddeddf yn arwain at arbediad o bron i £200 ar gyfartaledd i denantiaid am bob tenantiaeth. Dim ond ar gyfer tenantiaethau byrddaliadol sicr y bydd y newidiadau yn gymwys.
O hyn ymlaen dim ond taliadau ar gyfer rhent, blaendal sicrwydd, blaendal cadw, diffygdaliadau (pan fydd tenant wedi torri cytundeb tenantiaeth) a thaliadau ar gyfer cyfleustodau, y dreth gyngor, trwydded deledu neu wasanaethau cyfathrebu y gall asiantiaid gosod neu landlordiaid eu codi.
Mae’r ddeddf yn gosod terfyn ar flaendaliadau cadw i gadw eiddo cyn llofnodi contract rhentu i’r hyn sy’n gyfatebol i wythnos o rent ac mae hefyd yn creu darpariaethau i sicrhau bod y blaendal yn cael ei ad-dalu’n brydlon. Mae hefyd yn rhoi i Lywodraeth Cymru y pŵer i gyfyngu ar lefel y blaendaliadau sicrwydd os bydd angen yn y dyfodol.
Er mwyn sicrhau bod y newidiadau yn cael eu cyflwyno, mae trefn orfodi glir, syml a chadarn hefyd yn cael ei sefydlu i ddelio ag unrhyw achosion o dorri cytundeb. Gall hysbysiadau cosb benodedig o £1,000 gael eu cyflwyno i unrhyw un sy’n gofyn am daliad gwaharddedig. Os na chaiff y gosb ariannol ei thalu, gellir erlyn troseddau honedig. Yn achos troseddau difrifol, gall awdurdod gorfodi benderfynu mynd ati’n uniongyrchol i erlyn.
Bydd dirwy nad yw’n amodol ar derfyn statudol yn cael ei gosod ar gyfer y rhan fwyaf o droseddau. Bydd Rhentu Doeth Cymru yn cael gwybod am unrhyw erlyniad a gall hynny fod yn rhan o’r ystyriaethau i’w trafod wrth benderfynu ar addaster i ddal trwydded - a heb drwydded ni all asiant na landlord osod na rheoli eiddo yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James:
Mae cyfran sylweddol o’r bobl yng Nghymru yn byw mewn cartrefi rhentu preifat ac mae’n holl bwysig y gallant deimlo’n hyderus eu bod yn cael bargen deg. Rydw i am i rentu’n breifat fod yn ddewis positif sy’n agored i bawb.
Mae llawer wedi dweud mai’r ffioedd sy’n cael eu codi gan rai asiantiaid gosod a landlordiaid yw’r prif rwystr i ddod o hyd i gartref safonol ar rent. Roedd rhai tenantiaid yn wynebu sefyllfa lle’r oedd yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i gannoedd o bunnoedd yn ychwanegol at eu blaendal sicrwydd a’r rhent i’w dalu ymlaen llaw.
Nod ein deddf newydd yw sicrhau y bydd rhentu yng Nghymru yn dod yn fwy rhesymol, yn fwy fforddiadwy ac yn fwy tryloyw ac na fydd tenantiaid mwyach yn gorfod wynebu ffioedd ymlaen llaw a oedd weithiau’n sylweddol ac yn afresymol wrth iddynt ddechrau rhentu.