Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyflwyno rheoliadau heddiw ar gyfer cyflwyno cynllun trwyddedu Arddangosfeydd Anifeiliaid, fel sŵau symudol a ffermydd anwes, at ddiben ymgynghori.
Amcan y rheoliadau drafft yw gwella lles anifeiliaid a byddant yn rhoi'r pwerau i Awdurdodau Lleol archwilio Arddangosfeydd Anifeiliaid yn ogystal â'r eiddo a'r cyfarpar teithio cysylltiedig.
Ar hyn o bryd, nid oes gofyn cynnal archwiliadau rheolaidd ar Arddangosfeydd Anifeiliaid. Byddai cynllun trwyddedu'n gwella lles anifeiliaid trwy osod amodau y byddai'n rhaid i'r perchennog eu bodloni i ddangos ei fod yn diwallu anghenion yr anifeiliaid. Byddent yn sicrhau hefyd bod prosesau yn eu lle i ddiogelu'r bobl sy'n ymwneud â'r anifeiliaid sy'n cael eu harddangos.
Byddai'r cynigion sy'n destun ymgynghoriad o heddiw (29 Awst) tan 21 Tachwedd, yn ei gwneud yn ofynnol i Arddangosfeydd Anifeiliaid addysgu'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth am y rhywogaeth fel un o amodau'r drwydded.
O dan y gyfraith newydd, ar ôl profi eu bod yn gallu bodloni amodau'r drwydded, byddai'n rhaid i'r Arddangoswyr ofyn i'w Hawdurdod Lleol am drwydded cyn cael arddangos eu hanifeiliaid. Byddai'r drwydded yn para tair blynedd a'r Awdurdodau Lleol fydd yn gyfrifol am ei gorfodi.
Y gobaith yw y bydd y cynllun trwyddedu, fydd yn effeithio ar Arddangosfeydd Anifeiliaid yng Nghymru ac sy'n ymweld â Chymru, yn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o blant yn dysgu parchu anifeiliaid ac yn magu agwedd gyfrifol amdanynt.
Y sbardun oedd y pryderon y gallai Arddangosfeydd Anifeiliaid fagu agweddau negyddol os yw'r anifeiliaid yn cael eu portreadu fel nwyddau neu deganau yn hytrach na fel bodau sy'n gallu teimlo.
Er mwyn ennyn diddordeb pobl ifanc yn y cynigion, mae holiadur wedi'i gyhoeddi er mwyn i'r genhedlaeth nesaf o berchenogion anifeiliaid gael rhoi eu barn.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y cynllun trwyddedu hwn yn cyfrannu at wella safonau lles anifeiliaid a sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu cadw, eu hyfforddi a'u dangos mewn ffordd briodol.
"Mae anifeiliaid sy'n cael eu harddangos yn rhan bwysig o'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ac yn ein barn ni, yn ogystal â diogelu lles anifeiliaid a diogelu'r bobl sy'n dod i'w gweld, bydd y cynllun trwyddedu'n profi ein bod yn wlad o bobl sy'n dwlu ar anifeiliaid.
"Bydd y cynllun trwyddedu'n sicrhau bod anifeiliaid, wrth addysgu'r genhedlaeth nesaf, yn cael byw bywyd o ansawdd da.
"Rydyn ni'n disgwyl ymlaen at glywed barn y bobl ac rydyn ni'n gobeithio y gwnaiff perchenogion anifeiliaid ac anifail-garwyr o bob oed gymryd rhan."