Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Heddiw rwyf wedi lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar ‘Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Arddangosfeydd Anifeiliaid) (Cymru) 2020’ drafft a'r Canllawiau cysylltiedig, yn ogystal â gwahodd tystiolaeth i helpu llunwyr polisi i asesu'r effaith y gallent ei chael ar bobl a bioamrywiaeth Cymru.
Mae'r Rheoliadau drafft yn darparu cynllun trwyddedu ar gyfer pob arddangosfa anifeiliaid a leolir yng Nghymru ac sy'n ymweld â Chymru sy'n bodloni meini prawf penodol; mae'n caniatáu gwneud gwiriadau i sicrhau bod safonau da o les yn cael eu cynnal lle mae anifeiliaid yn cael eu cadw, wrth iddynt gael eu cludo ac yn ystod arddangosfeydd.
Un peth sydd wedi dod i'r amlwg wrth i'r polisi hwn fynd yn ei flaen yw bod arddangosfeydd anifeiliaid yn chwarae rôl bwysig wrth ddatblygu agweddau tuag at anifeiliaid. Mae pryderon y gallent gael effaith negyddol, gan ddangos anifeiliaid fel nwyddau neu deganau. Mae eraill yn teimlo'n gryf fod arddangosfeydd anifeiliaid sy'n cael eu rheoli'n dda mewn sefyllfa dda i gyflwyno plant, pobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd i anifeiliaid – mewn amgylchedd sy'n cael ei reoli.
Y brif egwyddor mae'r cynllun yn seiliedig arni yw datblygu agweddau parchus a chyfrifol tuag at anifeiliaid, ac i'r perwyl hwnnw mae'r rheoliadau drafft yn cyflwyno gofyniad newydd i arddangosfeydd anifeiliaid hyrwyddo addysg i'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth o'r rhywogaethau sy'n cael eu cadw. Mae hwn wedi bod yn ofyniad hirsefydlog a llwyddiannus ar gyfer sŵau trwyddedig, ac rwy'n awyddus i weld y manteision y gallai eu darparu ar gyfer pobl Cymru pan fydd yn cael ei gyflwyno mewn cyd-destunau eraill.
Dylai'r gofyniad hwn gael effaith barhaol ar blant a phobl ifanc yn enwedig, ac rwy'n teimlo ei bod yn bwysig iddynt gael y cyfle i wneud sylwadau ar yr egwyddor hon ac ar agweddau eraill ar y cynllun trwyddedu arfaethedig. Felly, mae holiadur ar gyfer plant a phobl ifanc wedi cael ei gyhoeddi fel rhan o'r ymgynghoriad hwn i ganiatáu i berchnogion anifeiliaid y genhedlaeth nesaf gyflwyno tystiolaeth.
Mae arddangosfeydd anifeiliaid yn rhan annatod o ddiwydiant twristiaeth Cymru, ac rwy'n hyderus y bydd y cynllun trwyddedu hwn nid yn unig yn chwarae rôl wrth ddiogelu'r bobl sy'n mynd i weld yr arddangosfeydd hyn, ond hefyd yn dangos i bobl Cymru ac ymwelwyr â Chymru ein bod yn genedl o bobl sy'n caru anifeiliaid ac sy'n frwd dros sicrhau bod anifeiliaid, ni waith a ydynt yn cael eu cadw at ddibenion gwaith neu fel cwmnïaeth, yn cael bywyd o ansawdd da.
Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 21 Tachwedd 2019 ac mae ar gael yma: https://llyw.cymru/arddangosfeydd-anifeiliaid
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.