Mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi eglurder ynglŷn â chyllid ar ôl Brexit, yn ogystal â chyllidebau’r dyfodol.
Mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi eglurder ynglŷn â chyllid ar ôl Brexit, yn ogystal â chyllidebau’r dyfodol. Daw hynny cyn i gyfarfod gael ei gynnal yn Llundain heddiw gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, Rishi Sunak.
Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Rebecca Evans:
“Byddaf yn pwyso ar y Prif Ysgrifennydd i ddarparu’r eglurder y mae dirfawr ei angen ynglŷn â chyllid yn y dyfodol, ynghyd â’r cymorth a fydd ar gael i helpu i amddiffyn economi, busnesau a chymunedau yng Nghymru os bydd Brexit heb gytundeb.
“Mae’r holl dystiolaeth yn dangos y bydd ymadael â’r UE heb gytundeb neu gyfnod pontio yn cael effaith drychinebus ar Gymru ac yn arafu economi’r DU yn ddifrifol.
“Mae asesiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dangos bod yr economi wedi tanberfformio ers y refferendwm, ac mae gwaith ymchwil annibynnol yn awgrymu bod economi’r DU eisoes un y cant yn llai nag y byddai wedi bod fel arall. Mae hyn yn gyfystyr â cholled o tua £300 i bob unigolyn yng Nghymru bob blwyddyn.
“Rwy’n pryderu’n fawr y bydd ffordd ddi-drefn Llywodraeth y DU o reoli ymadawiad y DU â’r UE, a’r cynnydd mewn costau yn sgil dibrisio’r bunt, yn golygu y bydd ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hymestyn hyd yn oed ymhellach. Ni all Llywodraeth y DU barhau i chwarae’r gêm anghyfrifol hon gyda’n gwasanaethau cyhoeddus, a byddaf yn pwyso ar y Prif Ysgrifennydd i weithredu nawr a darparu’r hwb haeddiannol y mae ei wir angen ar ein gwasanaethau cyhoeddus.
“Byddaf hefyd yn galw ar y Prif Ysgrifennydd i gadw at addewid Llywodraeth y DU na fyddwn yn cael ‘ceiniog yn llai’ na’r hyn y byddem wedi disgwyl ei gael o fewn yr UE, ac rwy’n awyddus i gael gwarant hollol bendant y bydd setliad datganoli Cymru yn cael ei barchu mewn penderfyniadau a fydd yn cael eu gwneud yn y dyfodol.”