Mark Drakeford AC, y Prif Weinidog
Rwyf yn credu'n gryf bod gwell dyfodol i Gymru drwy fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau'n gyson dros wneud newidiadau i'r setliad er mwyn cryfhau ein Cynulliad a'n Llywodraeth, yn ogystal â chryfhau'r Undeb.
Fel llawer o bobl eraill, rwyf wedi cael fy siomi gan ddiofalwch Llywodraeth newydd y DU wrth iddi drafod uniondeb yr Undeb ar gyfer y dyfodol. Siaradodd y Cwnsler Cyffredinol am ein Hundeb yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ei ddisgrifio fel teulu o wledydd yn gweithio gyda'i gilydd er lles pawb. Hefyd, siaradodd y Cwnsler Cyffredinol am natur wirfoddol yr Undeb a'r effaith gyffredinol pe bai unrhyw un o'i rannau cyfansoddol yn dewis arfer ei hawl i benderfynu drosti ei hun ei bod yn gadael yr Undeb.
Rwy’n benderfynol o weithio'n galetach i greu, llunio a ffurfio Undeb sy'n ddigon cryf i allu gwrthsefyll y pwysau presennol o ganlyniad i Brexit, yn ogystal â bod yn Undeb sy'n gweithio'n galetach i adlewyrchu buddiannau pob gwlad gyfansoddol, lle mae gan bob aelod o'r teulu le yn y broses o wneud penderfyniadau. Rwyf am i DU y dyfodol fod yn Undeb mwy cyfartal a theg.
Felly, rwyf wedi gofyn i Alun Davies AC arwain prosiect ar fy rhan i edrych ar ddyfodol y Deyrnas Unedig pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref. Rwyf am i Alun Davies ddarparu golwg heriol a threiddgar, gan lunio adroddiad ar ei gasgliadau. Gobeithio y byddaf wedi eu cyhoeddi erbyn y Pasg y flwyddyn nesaf.