Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah Blythyn a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Lee Waters wedi cyhoeddi bod mwy na £3.5 miliwn o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru ar gael i adfywio Neuadd y Dref Maesteg i greu canolbwynt diwylliannol ar gyfer canol y dref a’r gymuned ehangach.
Bydd y prosiect yn caniatáu adfywio ac ailddefnyddio’r adeilad rhestredig Gradd ll yn gyfleuster amlddefnydd a fydd yn darparu lle i gymdeithasu, dysgu, gwella sgiliau a dathlu’r dreftadaeth sylweddol sy’n perthyn i gymuned y cwm yn ehangach.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah Blythyn:
Mae’r adeilad hardd a hynod bwysig yma o safbwynt pensaernïol sydd wedi gwasanaethu’r ardal am gyhyd yn cael bywyd newydd. Edrychaf ymlaen at ei weld yn ffynnu a datblygu.
Bydd yn galluogi pobl leol i ddod ynghyd ac yn ganolbwynt cymdeithasol cymuned Maesteg. Yn ogystal â’r amryw adnoddau arloesol, bydd ynddo le hefyd i ddatblygu mwy o gyfleoedd dysgu a sgiliau ar y cyd ag amryw bartneriaid.
Yn yr adeilad cymunedol amlddefnydd a chanolfan ddiwylliannol fodern yma bydd gwasanaeth llyfrgell newydd, gwell lle ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau, theatr stiwdio, ardal benodedig i blant a wifi cyflym iawn.
Bydd yno hefyd atriwm gwydr newydd yn ogystal â gwell bar a chyfleusterau arlwyo. Bydd y cyfleusterau cefn llwyfan a’r ystafelloedd newid yn cael eu gwella hefyd er mwyn gallu denu ystod ehangach o gwmnïau celfyddydol proffesiynol.
Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Lee Waters:
Canol ein trefi yw calon ein cymunedau ac mae Tasglu’r Cymoedd yn ymrwymedig i’w cefnogi, lle bo modd i ni wneud hynny, i dyfu.
Bydd yr arian rydyn ni wedi’i neilltuo ar gyfer y prosiect hwn yn helpu i adfywio Maesteg, yn ardal ogleddol Pen-y-bont ar Ogwr, un o saith Hyb Strategol y Tasglu. Bydd yn helpu busnesau lleol i ffynnu ac, yn ei dro, bydd hynny’n gwella ac yn ysgogi’r economi lleol gan anadlu bywyd newydd i’r hen adeilad, denu cyflogwyr newydd, creu swyddi a gwella golwg y cymunedau.
Mae’r prosiect yn rhan o’r rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Bydd y £54 miliwn a fydd yn cael ei neilltuo dros gyfnod o chwe blynedd yn cael ei ddefnyddio i brynu, adnewyddu neu ailddatblygu adeiladau a thir segur o fewn trefi a chanol dinasoedd, neu’n agos atyn nhw, ledled Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Amcangyfrifir y bydd y gronfa yn ysgogi buddsoddiad pellach gwerth o leiaf £54 miliwn arall gan gynnig hwb o gyfanswm o £108 miliwn i gymunedau ledled Cymru.
Mae’r cymorth ariannol a roddwyd i Gyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys £858,000 gan y rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, £2,001,990 gan yr Undeb Ewropeaidd a £650,000 gan Dasglu’r Cymoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg ac Adfywio:
Dyma newyddion gwych a hoffwn ddiolch Llywodraeth Cymru a llongyfarch pawb sydd wedi helpu i gyflwyno cynnig llwyddiannus am y cyllid. Dyma gam pwysig ymlaen i’n cynlluniau i ddiogelu dyfodol yr adeilad hynafol a hanesyddol hwn wrth i ni edrych i sicrhau ei fod yn bodloni’n llawn anghenion modern y gymuned yma ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.