Mae Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn mynd i gael safle Parcio a Theithio pwrpasol er mwyn gwella'r cysylltiad rhwng cymunedau'r fro a'r 9,000 o swyddi mae'r Parc yn eu darparu, diolch i grant o fwy na £2m oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Gan ddarparu elfennau pwysig o'r Metro yn unol â Chynllun Glannau Dyfrdwy'r Cyngor, bydd yn gwella'r cysylltiadau â Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, gan estyn y cyfleoedd iddo dyfu.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn adeiladu safle Parcio a Theithio ar gyfer 227 o geir ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, a bydd yn cael ei wasanaethau gan fysiau presennol y Deeside Shuttle. Bydd y cynllun yn golygu datblygu hefyd gyswllt bws rhwng y safle Parcio a Theithio a Pharth 2 yr ystâd.
Unwaith y caiff y safle ei agor, mae Cyngor Sir y Fflint am gyfyngu ar hawliau parcio i fynd i'r afael â'r broblem parcio direolaeth a geir yno ac annog pobl i ddefnyddio'r gwasanaeth newydd.
Gwnaeth Llywodraeth Cymru neilltuo £988,500 i Gyngor Sir y Fflint ar gyfer y cynllun yn 2017-18. Cafodd £1,300,000 ei neilltuo ar gyfer 2019-2020 er mwyn i'r gwaith adeiladu allu cael ei gwblhau.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Mae diffyg mynediad a hygyrchedd wedi bod yn ffactor mawr o ran cadw busnesau a recriwtio gweithwyr ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a bu'n rhwystr wrth geisio denu busnesau a helpu busnesau i dyfu.
"Mae busnesau wedi tynnu sylw hefyd at y diffyg lleoedd parcio yn y Parc ar hyn o bryd sy'n arwain at barcio direolaeth a thagfeydd traffig.
"Bydd y datblygiad hwn yn datrys llawer o'r problemau ar y safle, gan ei gwneud yn bosib i lawer yn yr ardaloedd cyffiniol allu manteisio ar y cyfleoedd gwaith sydd wrth garreg eu draws."
Dywedodd Aelod Cabinet y Cyngor Sir dros Wasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
"Rwy'n falch bod arian wedi'i sicrhau i adeiladu'r safle Parcio a Theithio yng Nglannau Dyfrdwy. Dyma un o'r cynlluniau mwyaf cyffrous sy gennym yn yr arfaeth a bydd yn integreiddio pob modd o deithio. Mae'r cam pwysig hwn yn y cynllun yn dangos ein hymrwymiad i fwrw ymlaen â gwireddu'n gweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth Sir y Fflint.
"Mae yna 400 o fusnesau ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, yn cyflogi 9,000 o bobl ond mae mynediad yn hen broblem ac yn rhwystr i fusnesau a darpar weithwyr. Mae Cyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio i ddatrys y broblem trwy ddatblygu Metro'r Gogledd-ddwyrain gan integreiddio'r rheilffyrdd a'r rhwydweithiau bysiau a beiciau er mwyn gwella'r mynediad at yr hyb gwaith pwysig hwn."