Data yn edrych ar gyraeddiadau disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3, yn ôl hawl i brydau ysgol am ddim ar gyfer 2019.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cyraeddiadau a'r hawl i brydau am ddim
Cynhwysir asesiadau dechreuol yn y dadansoddiad yma am y tro cyntaf. Cynhelir yr asesiadau hyn wrth i’r plentyn ddechrau mewn Dosbarth Derbyn yn 4 oed. Fel arfer mae disgyblion yn cael eu hasesu ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen yn 7 oed, Cyfnod Allweddol 2 yn 11 oed a Chyfnod Allweddol 3 yn 14 oed.
Byddwn yn cyhoeddi data Cyfnod Allweddol 4 yn ôl hawl i brydau ysgol am ddim ar wahân ym mis Rhagfyr fel rhan o’r adroddiad ystadegol ar 'Ganlyniadau arholiadau'.
Cymhariaeth gyda 2018
Roedd canran y disgyblion a gyflawnodd o leiaf y lefel disgwyliedig yn is yn 2019 nac yn 2018 ym mhob pwnc craidd / meysydd dysgu ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3. Hyn roedd y sefyllfa ar gyfer disgyblion sydd a’r hawl i brydau ysgol (eFSM) am ddim a disgyblion sydd a dim hawl (nFSM).
Yn dilyn datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Addysg yng Ngorffennaf 2018, ac ymgynghoriad a orffennodd yn Ionawr 2018, ni fyddwn bellach yn cyhoeddi data'r Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 ar lefel ysgol, awdurdod na chonsortia. Mae hwn yn gam sylweddol i ffwrdd o gasglu gwybodaeth am berfformiad pobl ifanc fesul ysgol at ddibenion atebolrwydd.
Gallai canlyniadau eleni fod yn adlewyrchiad o’r newidiadau hyn, lle mae prif bwrpas asesiadau athrawon wedi dechrau symud yn ôl i ddysgwyr unigol ac i ffwrdd o ddwyn ysgolion i gyfrif.
Prif bwyntiau
- Yn yr asesiadau dechreuol roedd y canran o ddisgyblion eFSM a oedd wedi cyrraedd cam datblygol a fyddai’n gyson â’u hoed neu’n uwch yn ôl y fframwaith yn is na disgyblion nFSM ym mhob meysydd dysgu yn 2019.
- Yn 2019 roedd perfformiad disgyblion eFSM yn is na disgyblion nFSM ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3.
- Mae perfformiad disgyblion eFSM ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen wedi gostwng ychydig rhwng 2018 a 2019. Mae’r bwlch rhyngddynt a disgyblion nFSM wedi cynyddu ychydig. Yn dilyn newidiadau I Feysydd Dysgu'r Cyfnod Sylfaen, dylai cymariaethau o 2018 ymlaen gyda blynyddoedd blaenorol gael eu hosgoi.
- Mae perfformiad disgyblion eFSM yng Nghyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 wedi gwella yn gyffredinol dros y deng mlynedd diwethaf. Mae’r bwlch rhyngddynt a disgyblion nFSM wedi gostwng yn gyffredinol dros y deng mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, yn 2019 bu gostyngiad ym mherfformiad disgyblion eFSM ac mae’r bwlch wedi cynyddu ychydig.
- Yn 2019 20.4 pwynt canran oedd y bwlch ym mherfformiad yn y Dangosydd Cyfnod Sylfaen.
- Yn 2019 roedd y bwlch yn y Dangosydd Pynciau Craidd yn 15.4 pwynt canran ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 a 19.9 pwynt canran ar gyfer Cyfnod Allweddol 3.
- Mae perthynas cryf rhwng cyflawniad â’r hawl i brydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd: wrth i’r lefel o hawl gynyddu mae lefel cyflawniad yn disgyn.
Gwybodaeth bellach
Mae dadansoddiad pellach o ganlyniadau ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 yn ôl rhyw a lefel cyrhaeddiad ar gael ar StatsCymru.
Ceir Gwybodaeth allweddol am ansawdd yn y datganiad 'Cyflawniad academaidd disgyblion 4 i 14 oed mewn pynciau craidd', a gyhoeddwyd ar 7 Awst 2019, a’r datganiad 'Canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion', a guhoeddwyd ar 31 Gorffennaf 2019.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyraeddiadau a'r hawl i brydau am ddim, 2019: tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 32 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.