Esbonio sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo hawliau plant a sut y defnyddir egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) wrth ddylunio polisi.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd o ran hyrwyddo hawliau plant. Mae'r dull gweithredu yn seiliedig ar ymrwymiad i egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
Cytundeb rhyngwladol yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn sy'n amlinellu'r hawliau hyn. Lluniwyd y Confensiwn ar y sail bod angen rhoi ystyriaeth benodol i hawliau plant oherwydd y gofal arbennig a'r prosesau diogelu sydd eu hangen yn aml ar blant a phobl ifanc.
Rhestr o hawl sydd gan bob plentyn a pherson ifanc ledled y byd yw'r Confensiwn. Mae gan blant a phobl ifanc sy'n 18 oed ac yn iau yr hawl i fod yn ddiogel, chwarae, cael addysg, bod yn iach a bod yn hapus.
Mae pedair erthygl allweddol yn sail i'r hawliau a nodir yn y Confensiwn:
- yr hawl i beidio â gorfod wynebu gwahaniaethu yn eich erbyn (erthygl 2)
- ymrwymiad i les pennaf y plentyn (erthygl 3)
- yr hawl i fyw, goroesi a datblygu (erthygl 6)
- yr hawl i gael eich clywed (erthygl 12)
Yn 2004, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y Confensiwn yn ffurfiol fel sail y broses o lunio polisi sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc.
Rydym wedi llunio gwybodaeth sy'n addas i blant y gellir ei rhannu a'i hyrwyddo.
Deddfwriaeth hawliau plant
Mae hawliau plant eisoes wedi'u hymgorffori yn neddfau Cymru o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 - gan danlinellu ymrwymiad Cymru i hawliau plant a'r Confensiwn.
Mae'r mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion i roi sylw dyledus i'r Confensiwn wrth ddatblygu neu adolygu deddfwriaeth a pholisi. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Weinidogion roi'r pwys priodol i ofynion y Confensiwn, gan eu cydbwyso yn erbyn yr holl ffactorau eraill sy'n berthnasol i'r penderfyniad dan sylw.
Mae'r mesur hefyd yn rhoi cyfrifoldeb ar Weinidogion i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gwybod am hawliau plant a phobl ifanc, fel y'u hamlinellir yn Erthygl 42 o'r Confensiwn, ac yn eu deall a'u parchu.
Er mwyn sicrhau ein bod yn cefnogi Gweinidogion i gydymffurfio â'r ddyletswydd i roi sylw dyledus ac i sicrhau cydymffurfiaeth, rydym wedi datblygu'r asesiad o'r effaith ar hawliau plant (CRIA).
Gweld asesiad effaith hawliau plant.
Gallwch gael rhagor o gyngor, canllawiau a gwybodaeth am CRIA drwy anfon e-bost i'r blwch post CRIA.
Beth i'w wneud os nad yw plant yn cael manteisio ar eu hawliau
Rydym yn gwerthfawrogi barn plant a phobl ifanc ac rydym am glywed gennych i wella'r gwasanaeth a ddarparwn. Os ydych chi'n credu nad ydych chi neu blant rydych chi'n eu hadnabod yn cael eu holl hawliau, gallwch wneud cwyn.
Gallwch lenwi ein ffurflen gwyno ar-lein
Ffôn
03000 251 738
E-bost
Gallwch anfon eich cwyn drwy e-bost atom yn cwynion@llyw.cymru
Comisiynydd Plant Cymru
Mae swyddfa Comisiynydd Plant Cymru yn sefydliad annibynnol a all hefyd fwrw ymlaen â chwynion fel rhan o'u gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhoi cyngor a chymorth i blant a phobl ifanc, a'r rhai sy'n gofalu amdanynt, os ydynt yn teimlo eu bod wedi cael eu trin yn annheg.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor Comisiynydd Plant Cymru drwy fynd i Ymchwiliadau a Chyngor - Comisiynydd Plant Cymru
Gallwch hefyd gysylltu â Chomisiynydd Plant Cymru drwy:
Ysgrifennu at:
Comisiynydd Plant Cymru
Tŷ Llewellyn
Parc Busnes Glan yr Harbwr
Heol yr Harbwr
Port Talbot
SA13 1SB
Rhif ffôn: 0808 801 1000 (Rhif di-dâl) / 01792 765600
E-bost: post@complantcymru.org.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Rydyn ni ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener oni bai am Wyliau Banc o 9yb – 5yh.