Mae’r Gweinidog Tai Julie James wedi cyhoeddi 26 prosiect i fynd i’r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc gan roi swm o £3.4 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru at y prosiect.
Bydd prosiectau ledled Cymru yn gallu manteisio ar yr arian yma.
Mae’r prosiectau i’w cyllido yn cynnwys:
- dros £88,000 ar gyfer prosiect Tai yn Gyntaf ar gyfer Ieuenctid ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy’n cael ei redeg gan Gaer Las a Chyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr
- Bydd Cymdeithas Gofal yn derbyn £79,000 i gyflwyno prosiect Tai yn Gyntaf i bobl ifanc yng Ngheredigion
- Bydd Cyngor Sir Ynys Môn a Digartref Cyf yn derbyn mwy na £54,000 i weithio gyda’r sector preifat i ddarparu llety i bobl ifanc sy’n barod i symud i fyw’n annibynnol
- Bydd Dewis yn derbyn dros £42,000 i ddarparu tai i bobl ifanc sy’n agored i niwed oherwydd anabledd, pobl ifanc sy’n gadael gofal neu sydd wedi bod yn y system cyfiawnder ieuenctid yng Nghastell-nedd
- Bydd Llamau, Cynghorau Abertawe a Rhondda Cynon Taf yn derbyn £333,000 i ddatblygu cynlluniau Tai yn Gyntaf i Ieuenctid
- yng Nghaerffili a Thorfaen, bydd Llamau yn darparu llety cymorth i bobl ifanc ddigartref gyda dros £84,000 o gyllid
- dros £188,000 i Gyngor Sir Powys i gynnig cymorth dwys a chynlluniau Tai yn Gyntaf i bobl ifanc
- Bydd Parc Prison a rhaglen Pobl yn derbyn mwy na £109,000 i ddod o hyd i lety a chynnig cymorth i bobl ifanc agored i niwed sy’n gadael carchar
Dywedodd Julie James:
Rydw i am rwystro pobl rhag profi digartrefedd o gwbl ond lle bydd yn digwydd, rydw i am iddo fod yn ddigwyddiad prin, byrhoedlog na fydd yn dechrau ar batrwm o ailadrodd ei hun. I bobl ifanc, gall ansicrwydd o ran cael cartref sefydlog olygu dyfodol sy’n go ddu, yn anghyfiawn a heb gyfleoedd digonol.
Mae’r prosiectau hyn yn ffyrdd arloesol o atal a datrys digartrefedd ymhlith ieuenctid, yn delio â’r achosion ac yn sicrhau bod y cymorth cywir ar gael pan fydd ei angen.
Nid rhoi to uwch eu pen yw’r diben ond rhoi cartref i bobl ifanc.
Bydd y prosiectau yn derbyn cymorth o £4.8 miliwn gan Gronfa Arloesi Digartrefedd Ymhlith Ieuenctid Llywodraeth Cymru yn rhan o’r £10 miliwn a gyhoeddwyd gan y cyn Brif Weinidog Carwyn Jones i fynd i’r afael â digartrefedd ymhlith ieuenctid.