Mercy Ngulube
Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc
Cafodd Mercy Ngulube ei geni â HIV. Mae hi wedi gwrthod gadael iddo'i hatal ar hyd llawer o'i 19 mlynedd. Mae'n actifydd cymdeithasol hyderus sydd wedi defnyddio ei phrofiadau ei hun o stigma a gwahaniaethu i ysgogi ei hymrwymiad a'i huchelgais i sicrhau cydraddoldeb i bobl ifanc sy'n byw â HIV.
Mae hi'n gyn Gadeirydd Pwyllgor Ieuenctid Cymdeithas HIV Plant ac mae'n gyrru ymgyrchoedd ar ran pobl ifanc sy'n byw â HIV. Mae Mercy wedi bod yn llefaryddes i bobl ifanc sy'n byw gyda HIV yn genedlaethol, ac yn rhyngwladol hefyd.
Mae Mercy'n cael ei chanmol am gynrychioli Cymdeithas HIV Plant (CHIVA) a'r gymuned ehangach o bobl sy'n byw â HIV, gyda phroffesiynoldeb, realaeth, hiwmor, angerdd a deallusrwydd.
Ym mis Gorffennaf 2016, siaradodd Mercy ag Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Harry yn ystod y Gynhadledd HIV Rhyngwladol yn Durban, De Affrica, ynglŷn â sut mae HIV yn cael ei bortreadu yn y gymdeithas â'r cyfryngau, a sut y gallent frwydro gyda'i gilydd yn erbyn y stigma.
Ym mis Mai 2017, derbyniodd Wobr Etifeddiaeth Diana gan y Tywosogion William a Harry, anrhydedd newydd a grëwyd er cof eu mam gan elusen Gwobr Diana, sy'n gweithio gyda phobl ifanc i annog newid cymdeithasol.
Ers hynny, mae Mercy wedi mynd ymlaen i wneud TEDx Talk, i annog pobl ifanc eraill i fynd ar drywydd y newid yr hoffent ei weld yn y byd yma. Fe'i gwahoddwyd hefyd yn ddiweddar i Dŷ'r Arglwyddi er mwyn cyflwyno ei phrofiadau a defnyddio ei harbenigedd i helpu i lunio polisïau'r dyfodol.