Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi llongyfarch myfyrwyr o bob cwr o Gymru wrth i’r graddau A* i A uchaf godi eleni i 27%, o’r ganran o 26.3% yn 2018, y graddau uchaf yn hanesyddol.
Mae’r canlyniadau dros dro yn dangos bod Cymru wedi gwella o ran ei safle ar gyfer pob un o’r graddau a’i bod yn gyntaf ar gyfer canlyniadau A* o’i chymharu â rhanbarthau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Dyma’r prif ffigurau o’r canlyniadau dros dro a gafwyd heddiw:
- Cynnydd o ran cyrhaeddiad yn y graddau uchaf – bu cynnydd yn y graddau A*-A o 26.3% yn 2018 i 27%, y graddau uchaf yn hanesyddol.
- Cyfraddau llwyddo bellach ar gyfer A* yn 9.1%, y graddau uchaf yn hanesyddol.
- Roedd y canlyniadau’n sefydlog ar gyfer graddau A*-C, gyda’r gyfradd llwyddo gyffredinol yn 76.3%, y lefel uchaf o hyd ers 2009.
- Bu gwelliannau yn safle Cymru ar gyfer pob gradd a Chymru bellach sydd yn y safle cyntaf ar gyfer A*, o’i chymharu â rhanbarthau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
- Ymhlith y pynciau craidd, gwelwyd y gyfradd llwyddo uchaf ar gyfer A*-A mewn Mathemateg gyda 45.2% yn cyrraedd y graddau hynny.
- Cynnydd yn nifer y myfyrwyr oedd wedi cofrestru ar gyfer Gwyddoniaeth a mwy yn cael graddau A*-C mewn Bioleg (+1.1% pwynt), Cemeg (+2.2% pwynt) a Ffiseg (+1.1% pwynt).
- Roedd y canlyniadau’n sefydlog ar gyfer Safon Uwch Gyfrannol gyda 20.3% yn cael gradd A, a 90.0% o’r ymgeiswyr yn cael graddau A - E.
Fe wnaeth myfyrwyr Bagloriaeth Cymru berfformio’n dda hefyd. Cafodd 4.6% o’r myfyrwyr radd A* yn y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch, sy’n gyfatebol o ran maint ac ymrwymiad â Safon Uwch, sef cynnydd sylweddol o 1.6% yn 2017.
Ar ymweliad â champws Nantgarw yng Ngholeg y Cymoedd, lle’r oedd myfyrwyr yn derbyn eu canlyniadau Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru, dywedodd y Gweinidog:
“Rydyn ni wedi gweld set bositif o ganlyniadau eleni gyda pherfformiad cryf yn hanesyddol ar draws yr holl raddau. Mae’r nifer uchaf erioed o raddau A*-A yn dangos bod ein myfyrwyr sy’n perfformio orau yn ffynnu ac yn cyflawni hyd eithaf eu potensial.
“Rydw i hefyd yn falch gweld bod y cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio pynciau yn y Gwyddorau yn parhau. Bydd hyn yn helpu i gwrdd â’r galw mewn nifer o’n diwydiannau allweddol at y dyfodol.
“Mae’n ddiwrnod mawr i bawb sy’n casglu eu canlyniadau Safon Uwch ac rwyf am longyfarch y myfyrwyr, ynghyd â’n hathrawon a’n staff gwych mewn ysgolion, am eu holl waith caled hyd at heddiw.”