Data ar allu pobl yn y Gymraeg a pha mor aml y maent yn ei siarad ar gyfer Gorffennaf 2018 i Mehefin 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth
Prif bwyntiau
- Ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben 30 Mehefin 2019, adroddodd yr Arolwg Blynyddol bod 29.6% o bobl dair oed a throsodd yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r ffigur hwn yn cyfateb i 891,100 o bobl.
- Mae hyn 0.3 pwynt canran yn uwch nag yn yr un chwarter y flwyddyn flaenorol (y flwyddyn yn dod i ben 30 Mehefin 2018), sy’n cyfateb i 13,200 yn fwy o bobl.
- Mae’r siart yn dangos sut mae’r ffigurau hyn wedi bod yn cynyddu’n raddol bob blwyddyn ers Mawrth 2010 (25.2%, 731,000), wedi iddynt fod yn gostwng yn raddol o 2001 i 2007.
- Mae’r canlyniadau diweddaraf yn dod â chanran y siaradwyr Cymraeg yn ôl i’r lefelau a adroddwyd gan yr Arolwg Blynyddol yn 2001 (pan adroddwyd bod 30.0%, neu 833,400 o bobl yn gallu siarad Cymraeg).
- Yn Sir Gâr (96,600) a Gwynedd (90,700) y mae’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg o hyd.
- Ym Merthyr Tudful (11,900) a Blaenau Gwent (13,500) y mae’r niferoedd isaf.
- Yng Ngwynedd (76%) ac Ynys Môn (67%) y mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.
- Ym Mhen-y-bont ar Ogwr (15%) a Sir Fynwy (18%) y mae’r canrannau isaf.
- Adroddodd 16.5% (496,800) o bobl dair oed a throsodd eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 5.0% (152,600) yn wythnosol a 6.4% (193,700) yn llai aml. Dywedodd 1.6% (48,400) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 70.4% yn gallu siarad Cymraeg.
- Dywedodd 34% (1,030,500) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 27% (799,000) ddarllen yn Gymraeg a 24% (729,800) ysgrifennu’n Gymraeg.
Nodyn
Y Cyfrifiad Poblogaeth yw’r ffynhonnell allweddol sy’n cael ei defnyddio i fesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Ond gan fod yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn darparu canlyniadau bob chwarter, mae’n ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau’r Gymraeg rhwng cyfrifiadau.
Mae canlyniadau’r Cyfrifiad ar gyfer 2001 a 2011 wedi’u plotio ar y siart uchod hefyd, er mwyn dangos y gwahaniaethau rhwng y Cyfrifiad a’r Arolwg Blynyddol yn yr un cyfnod. Mae nifer o resymau posibl pam y byddai canlyniadau’r Cyfrifiad yn is na rhai’r arolwg. Er enghraifft, mae’r Cyfrifiad yn holiadur statudol sy’n cael ei gwblhau gan yr unigolion eu hunain, ond arolwg gwirfoddol yw’r Arolwg Blynyddol sy’n cael ei gynnal ar ffurf cyfweliadau wyneb yn wyneb.
Ni ddylai canlyniadau’r Arolwg Blynyddol gael eu cymharu â chanlyniadau’r Cyfrifiad na’u defnyddio i fesur cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050, yn nodi’n glir bod y targed hwn wedi’i seilio ar ddata’r cyfrifiad ac y bydd y cynnydd tuag at y targed yn cael ei fonitro drwy ddefnyddio data cyfrifiadau’r dyfodol.
Roedd blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd yn ddiweddar yn trafod yn gryno sut i ddehongli’r data am y Gymraeg yn yr Arolwg Blynyddol. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng y Cyfrifiad â’r Arolwg Blynyddol ar gael mewn bwletin sy’n rhoi canlyniadau manylach ar gyfer y Gymraeg yn yr Arolwg Blynyddol o 2001 i 2018.
Mae’r Arolwg Blynyddol yn cael ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Gellir cael manylion am sut mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: DataIaithGymraeg@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.