Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Heddiw byddaf yn cyhoeddi mai Syr David Henshaw fydd yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru i ddod yn gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Syr David Henshaw yw Cadeirydd dros dro Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd ac mae wedi bod yn ei swydd ers 1 Tachwedd 2018.
Cyn i gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru gael ei benodi yn ffurfiol, bydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal gwrandawiad cyn penodi ar 26 Medi i dderbyn tystiolaeth gan Syr David fel yr ymgeisydd o ddewis.
Mae'r cyhoeddiad mai Syr David yw'r ymgeisydd a ffefrir yn dilyn ymarfer recriwtio agored a theg wedi'i reoleiddio gan y Comisiwn Penodiadau Cyhoeddus.
Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r Corff mwyaf a Noddir gan Lywodraeth Cymru - mae'n cyflogi 1,900 o staff ar draws Cymru ac mae ganddo gyllideb o £180 miliwn. Fe'i ffurfiwyd yn 2013, gan ddod yn gyfrifol am ran fwyaf o swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, ac Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru, yn ogystal â rhai o swyddogaethau Llywodraeth Cymru.
Caiff gwrandawiadau cyn penodi eu defnyddio weithiau mewn mannau eraill yn y DU i alluogi pwyllgorau i dderbyn tystiolaeth gan yr ymgeisydd a ffefrir gan y llywodraeth, ar gyfer rhai penodiadau cyhoeddus pwysig cyn y penderfyniad penodi terfynol.
Bydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi adroddiad yn amlinellu ei safbwyntiau ynghylch pa mor addas yw'r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer y swydd. Byddaf yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch y penodiad yn dilyn yr adroddiad hwn.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.