Daeth yr ymgynghoriad i ben 3 Gorffennaf 2014.
Manylion am y canlyniad
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/150120-water-strategy-summary-of-responses-cy-thumb_jpg.jpg?itok=HTQq5Rfp)
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 477 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rhowch eich barn a helpwch ni i gwblhau ein Strategaeth derfynol i'w chyhoeddi yn 2015.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Nod y Strategaeth yw sicrhau bod ein hadnoddau dŵr yn gadarn cynaliadwy ac yn cael eu rheoli er budd Cymru a’i dinasyddion.
Bydd y Strategaeth hon yn pennu cyfeiriad hirdymor ein polisi dŵr. Rydym am gael cydbwysedd rhwng yr anghenion amgylcheddol hirdymor a’r angen am adnoddau dŵr effeithlon a dibynadwy a gwasanaethau dŵr gwastraff a fydd yn annog twf cynaliadwy ac yn creu swyddi.
Rydym yn datblygu dull gweithredu mwy integredig o reoli dŵr fel rhan o’n gwaith rheoli adnoddau naturiol. Bydd y dull integredig hwn yn helpu i reoli dŵr tir ac adnoddau mewn ffordd fwy cydlynol. Drwy hyn byddwn yn gallu sicrhau’r manteision economaidd a chymdeithasol mwyaf posibl mewn ffordd deg gan amddiffyn ecosystemau hollbwysig a’r amgylchedd ar yr un pryd.
Rydym yn awyddus i gael eich sylwadau a’ch ymatebion i’n cwestiynau ymgynghori penodol ni.
Dogfennau ymgynghori
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/140407water-strategy-consultation-document-cy-thumb_jpg.jpg?itok=hyQ7bQ2V)