Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cyhoeddi heddiw ei bod am ddarparu benthyciad newydd i helpu ffermwyr na fyddant yn derbyn eu taliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol ar y diwrnod talu cyntaf.
Ni fydd cyfnod talu presennol Cynllun y Taliad Sylfaenol, sef 2 Rhagfyr 2019 hyd 30 Mehefin 2020, yn newid ond bydd Cynllun Benthyciadau ar gael ar gyfer ffermwyr na fyddant yn derbyn eu taliad cyntaf ar y dyddiad talu cyntaf. Bydd y benthyciad ar gyfer ffermwyr na fyddant yn derbyn eu taliad werth hyd at 90% o'u hawliad.
Y gobaith yw y bydd y taliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol a'r cynllun benthyciadau yn rhoi sicrwydd i ffermwyr sy'n bryderus am eu llif arian parod yn ystod y misoedd nesaf wrth i'r DU baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ac wrth i'r gaeaf agosåu. Mewn ymateb i adborth gan randdeiliaid a'r diwydiant byddwn yn newid enw'r cynllun benthyciadau i 'Gynllun Cymorth ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol 2019'
Dywedodd Lesley Griffiths:
"Yn sgil yr holl ansicrwydd ynghylch effaith Brexit rydym yn benderfynol o gynnig pob cefnogaeth bosibl i ffermwyr, gan sicrhau y byddant yn gallu wynebu'r heriau sydd i ddod dros y misoedd nesaf.
“Gan fod y DU yn fwyfwy tebygol o ymadael heb gytundeb mae'n gwbl allweddol ein bod yn baratoi ac yn darparu cymaint â phosibl o gymorth i ffermwyr Cymru.Fy mlaenoriaeth i yw sicrhau ein bod yn cynllunio'n synhwyrol ac rwyf wedi bod yn cydweithio â'n partneriaid, undebau ffermio, elusennau a llawer o randdeiliaid eraill er mwyn sicrhau bod ein diwydiant yn y sefyllfa orau bosibl i wynebu heriau Brexit.
"Dylai'r cyfnod talu hwn a'r cynllun cymorth roi rhywfaint o sicrwydd i ffermwyr. Bydd yn eu helpu i gynllunio'n ariannol yn y tymor hwy ac i reoli eu llif arian parod yn y tymor byr yn ogystal.
Byddai'r cynllun cymorth ar gael i bawb, ond ni fydd taliadau ond yn cael eu rhoi i fusnesau fferm sy'n cofrestru ar gyfer y cynllun ac na fydd eu taliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol yn barod ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu.