Daeth yr ymgynghoriad i ben 22 Mai 2016.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 601 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am adborth ar rai o'n hallbynnau ystadegol yn ymwneud ag ystadegau poblogaeth ac aelwydydd.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Yn gyffredinol rydym yn gofyn am adborth yn agored am brofiad defnyddwyr wrth ddefnyddio’r allbynnau ystadegol hyn a sut y gallwn wella yn y dyfodol.
Rydym hefyd yn cynnig amserlen ar gyfer y cylch nesaf o amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd ac yn gofyn am farn ar yr amserlen hon ac amserlenni’r dyfodol.
Diolch i chi am gymryd yr amser i ddarllen y ddogfen hon. Mae eich adborth yn bwysig wrth ein helpu i lywio ein penderfyniadau felly rhowch wybod i ni beth yw eich barn am ein cynigion.