Daeth yr ymgynghoriad i ben 15 Medi 2013.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad - pobl ifanc , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae Llywodraeth Cymru'n awyddus i gael barn pobl ynghylch cynigion newydd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae gwaith ieuenctid yn hwyl ac mae’n rhoi cyfleoedd datblygu a dysgu llawn hwyl heriol ac anffurfiol i bobl ifanc. Yr hyn sy’n unigryw ac yn nodedig am waith ieuenctid yw ei fod yn cael ei lywio gan yr egwyddor o wirfoddoli sy’n cydnabod bod gan bobl ifanc yr hawl i ddewis cymryd rhan.
Nododd Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid (2012) mai prif bwrpas gwaith ieuenctid yw;
'Galluogi pobl ifanc i ddatblygu’n gyfannol gan weithio gyda hwy i hwyluso eu datblygiad personol cymdeithasol ac addysgol i’w galluogi i ddatblygu eu llais eu dylanwad a’u safle mewn cymdeithas i gyrraedd eu llawn botensial.'
Addawodd Llywodraeth Cymru yn y Rhaglen Lywodraethu y byddai'n diweddaru’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid. Rydym yn awr yn awyddus i gael barn pobl ynghylch cynigion ar gyfer y strategaeth hon. Bydd eich cyfraniad yn helpu i sicrhau ein bod yn rhoi’r strategaeth gwaith ieuenctid iawn ar waith i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru a’u helpu i gyrraedd eu llawn botensial.
Defnyddir canlyniadau’r ymgynghoriad hwn fel sail ar gyfer Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid i Gymru a gyhoeddir yn yr hydref.